Galwad i graffu ar gyfrifoldebau llywodraethwyr ysgolion

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am fwy o gefnogaeth ac i edrych eto ar gyfrifoldebau llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru, yn sgil cyhoeddi adroddiad i droseddau'r pedoffeil a chyn-bennaeth, Neil Foden.
Yn ôl cyn-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Friars ym Mangor, Dr Mair Edwards, mae'r pwysau gwaith ar aelodau cyrff tebyg yn fawr, gan olygu nad oes modd craffu ar benderfyniadau a gweithdrefnau'n llawn.
Manylodd adroddiad yn gynharach yr wythnos hon ar sut y llwyddodd Foden i lwyr reoli'r llywodraethwyr yn Ysgol Friars gan ei alluogi i gam-drin merched yn rhywiol.
Mae Llywodraeth Cymru'n adolygu llywodraethiant ysgolion ar hyn o bryd.

"Doedd o ddim yn licio cael ei gwestiynu," meddai Dr Mair Edwards am Neil Foden
Roedd Dr Edwards yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Friars ym Mangor am gyfnod byr hyd at Orffennaf 2016, cyn iddi ymddiswyddo'n rhannol oherwydd Foden.
"Oni'n teimlo nad o'n i'n cael y wybodaeth yn gyflawn ganddo fo.
"Felly, mewn cyfarfodydd llywodraethol yn aml iawn o'n i'n teimlo bo' fi ar y droed ôl... bo fi ddim yn gwybod am rai pethau - yr oedd o wedyn yn rhoi o flaen y llywodraethwyr a cheisio cael nhw 'di pasio, heb fod 'na sgriwtini llawn."
Mae hi'n credu bod ymddygiad Foden yn fwriadol.
"Doedd o ddim yn licio cael ei gwestiynu. Oedd o eisiau i'r corff llywodraethwyr roi rubber stamp ar unrhyw beth oedd o'n gynnig," meddai Dr Edwards.

Mi gasglodd adroddiad gan Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru ddydd Mawrth, bod Foden wedi bod yn "strategol" wrth fynd ati i gam-drin merched ifanc yn rhywiol - yn penodi ei hun yn bennaeth diogelu a bugeiliol yr ysgol ac ysgrifennu adroddiadau bwrdd y llywodraethwyr ar eu rhan.
Yn ôl Dr Edwards, mae angen edrych ar y cyfrifoldebau a'r gefnogaeth sydd i lywodraethwyr ysgolion.
"I ysgol uwchradd fawr, mae bod yn gadeirydd llywodraethwyr yn waith sawl diwrnod yr wythnos. Dydy o ddim yn fater o droi fyny i gyfarfod.
"Mae'n anodd iawn i rywun sy'n gweithio'n llawn amser i ymgymryd â'r gwaith yn ddi-dâl a'i wneud yn eu horiau personol, ond hefyd bod yn barod i fynd mewn i'r ysgol ar fyr-rybudd.
"Dwi'n meddwl bod rôl cadeirydd yn aruthrol o galed a thrwm," ychwanegodd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru; "Rydym wedi gweld newid mawr yn y system ysgolion dros y degawd diwethaf, ond dydy gwaith cyrff llywodraethu ddim wedi newid yn elfennol a dyna pam ein bod wedi cyhoeddi adolygiad."
"Ar hyn o bryd awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am sicrhau bod llywodraethwyr yn cael yr hyfforddiant a'r wybodaeth sydd ei angen i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
