Claddu: Pedair o flaen llys
- Cyhoeddwyd
Mae pedair wedi bod o flaen Llys Ynadon Hwlffordd wedi eu cyhuddo o rwystro dyn o Geredigion rhag cael ei gladdu.
Daw hyn ar ôl ymchwiliad yr Adran Waith a Phensiynau i ddiflaniad Geoffrey Howard Sturdey o Berth Berith ger Tregaron.
Y pedair o Dregaron yw ei wraig weddw Rebekah Sturdey, 56 oed, yn wreiddiol o Iran, Boque Ore Adie, 43 oed, yn wreiddiol o Dde Affrica, ei merch 20 oed Hazel Adie, a Karmel Adie, 24 oed.
Yn y ddalfa
Mae'r ddwy hyna' wedi eu cyhuddo o hawlio £61,138.25 Mr Sturdey yn dwyllodrus.
Mae Rebekah Sturdey a Boque Ore Odie yn y ddalfa a chafodd y ddwy arall eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Bydd y pedair yn Llys y Goron Abertawe ar Orffennaf 5.
Diflannodd Mr Sturdey ym mis Hydref 2008 a daeth swyddogion o hyd i'w gorff ar dir ym Mherth Berith.
Clywodd y llys fod archwiliad post mortem wedi dangos iddo farw o achosion naturiol.