Cwmni Gelert yn cael ei werthu
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni offer awyr agored Gelert wedi cael ei brynu gan gwmni Sports Direct, yn ôl y gweinyddwyr Grant Thornton.
Dywedodd fod y cytundeb yn debyg o ddiogelu tua 100 o swyddi manwerthu yng Nghymru.
Ond fe ddaw hyn yn rhy hwyr i weithwyr y cwmni ar hen safle ddosbarthu'r cwmni ym Mhorthmadog.
100 o weithwyr
Cyhoeddodd Gelert union flwyddyn yn ôl eu bod am gau'r ganolfan a diswyddo tua 100 o weithwyr.
Symudodd gwaith y cwmni oddi yno i Widnes ac fe symudodd rhai aelodau o staff yno hefyd.
Cafodd cwmni Gelert ei sefydlu yn 1975 ac mae ganddo siopau ym Mhorthmadog, Beddgelert, Caernarfon a Betws-y-Coed ynghyd ag un yn Nulyn er nad yw honno'n rhan o'r gwerthiant.
Cafodd cwmni Grant Thornton eu penodi'n dderbynwyr ar Fehefin 21 eleni er mwyn cwblhau'r gwerthiant i Sports Direct.
'Ennill ei blwy''
Yn ddiweddar fe brynodd Sports Direct International ran o fusnes JJB Sports wedi i'r busnes yna fynd i drafferthion.
Dywedodd David Riley o gwmni Grant Thornton: "Mae Gelert yn frand sydd wedi hen ennill ei blwy' ac rydym wrth ein bodd i fedru sicrhau gwerthiant fydd yn gosod sylfaen newydd ar gyfer y dyfodol i'r cwmni o dan berchnogaeth newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2012