Pont y Borth i ailagor yn rhannol yn ystod oriau'r dydd

pont y borthFfynhonnell y llun, AFP via Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Bont y Borth ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn ystod y dyddiau nesaf.

Rhwng 07:00 a 19:00 dim ond cerbydau hyd at dair tunnell fydd yn gallu croesi, ac fe fydd y bont ar gau dros nos.

Ddydd Mawrth dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio gyda chwmni UK Highways A55 DBFO Ltd i sicrhau bod modd ailagor y bont yn fuan.

Bydd mesurau rheoli traffig mewn grym - un llif traffig fydd oddi ar yr ynys yn y bore ac un llif fydd i mewn i'r ynys yn y prynhawn.

Bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi'r bont a defnyddio'r droedffordd i gerddwyr.

Bydd trefniadau mynediad brys hefyd ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.

Ddydd Sadwrn daeth cyhoeddiad annisgwyl fod Pont Menai yn cau am gyfnod amhenodol yn sgil gwaith atgyweirio - cyhoeddiad a oedd yn gryn siom i fusnesau yn nhref Porthaethwy rai wythnosau cyn y Nadolig.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod trafodaethau'n parhau gyda UK Highways A55 DBFO Ltd a Heddlu Gogledd Cymru a bydd yr union amserlenni a'r camau gorfodi yn cael eu cadarnhau cyn gynted ag y cytunir ar gynllun yn llawn.

Yn y cyfamser bydd y gwaith atgyweirio angenrheidiol i'r bolltau yn parhau.

"Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni geisio datrys y mater brys hwn," ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig