Cwblhau'r gwaith o amddiffyn harbwr Aberaeron rhag llifogydd

Dyma sut mae'r rhan newydd o'r harbwr yn edrych, wedi ei gwblhau
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bron i ddwy flynedd, mae gwaith i amddiffyn Aberaeron rhag llifogydd wedi ei gwblhau ac mae llwybr cerdded newydd ar y morglawdd wedi agor.
Dechreuodd y prosiect gwerth £32m ddiwedd 2023, a'i nod yw amddiffyn mwy na 160 o eiddo rhag y risg o lifogydd ac erydiad arfordirol.
Ym mis Gorffennaf, awgrymodd adroddiad i gynghorwyr yng Ngheredigion y gallai'r prosiect fynd dros ei gyllideb o bron i £2.5m, a bod mwy na £2m o "arian wrth gefn" ychwanegol wedi'i neilltuo ar ei gyfer.
Ddydd Mawrth, fe ddywedodd Cyngor Ceredigion na allai ddarparu'r cyfanswm terfynol gan nad yw'r holl gostau sy'n weddill wedi'u hanfonebu eto.
Hyd at ddiwedd mis Medi mae'r cyngor wedi gwneud taliadau i'r prif gontractwr o £31.817m.
Lleihau'r risg o lifogydd
Mae'r prosiect wedi ei ariannu yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, a chwmni adeiladu BAM UK & Ireland fu'n gwneud y gwaith.
Mewn datganiad dywedodd cyngor Ceredigion fod elfen amddiffyn rhag llifogydd y prosiect wedi gorffen, a nawr "bydd pobl unwaith eto yn gallu mwynhau Pen Cei a'r Rhodfa Morglawdd newydd yn Aberaeron yn dilyn ailagor Traeth y De ym mis Awst".
Ychwanegodd y cyngor fod gwaith gosod arwyneb yn cael ei gwblhau o amgylch Pwll Cam, ac maen nhw'n rhagweld y bydd yr ardal hon hefyd ar agor yr wythnos nesaf.
Nod y cynllun amddiffyn arfordirol yw lleihau'r risg o lifogydd i 168 eiddo preswyl ac anfasnachol yn Aberaeron, ac amddiffyn rhag y cynnydd sy'n cael ei ragweld yn lefel y môr yn y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi cynnwys adeiladu rhwystrau enfawr o graig yn y môr a grwynau pren ar draeth y de i leihau effeithiau erydiad arfordirol, ailadeiladu strwythur adfeiliedig Pier y De ac adeiladu wal llifogydd o waith maen a gwydr gyda phwyntiau mynediad i gerddwyr ar hyd Pen Cei.
Mae yna hefyd giât llifogydd newydd ac ardal gyhoeddus uchel o fewn Pwll Cam ger canol y dref a thorglawdd newydd i leihau uchder y tonnau yn yr harbwr.
Mae hyn yn cynnwys llwybr cerdded integredig sydd, yn ôl y cyngor, yn cynnig profiad newydd i bobl leol ac ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies fod tywydd garw wedi golygu oedi i'r gwaith
Roedd y gwaith wedi cymryd yn hirach na'r disgwyl i gwblhau ac mae'r cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Ceredigion, yn dweud fod y contractwyr wedi cael "amser heriol" gyda'r tywydd yn amharu ar y gwaith.
"Roedd Storm Darragh yn un o'r stormydd ac roedd bach o oedi wedi bod yn y gwaith oherwydd hynny, sy'n ddealladwy," meddai.
"Ond diwedd y gân yw bod ni wedi dod i'r diwedd nawr felly dyna sydd angen clodfori."
'Dim ffigwr pendant'
O ran y gorwariant dywedodd y Cynghorydd Davies fod tywydd garw yn ffactor yn hynny hefyd, ac nad oedd modd ar hyn o bryd rhoi ffigwr terfynol ar gyfanswm cost y prosiect.
"Ni mewn trafodaethau ar hyn o bryd ambiti'r gorwariant," meddai.
"Felly does dim ffigwr pendant gyda ni o ran beth yw'r swm yna.
"Mae fe'n uwch, lot uwch na'r gyllideb wreiddiol, ond o ran ariannu'r prosiect i gyd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 85% o'r gost felly ni'n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn helpu ni allan o ran hynny."

Dywedodd Dai Morgan, er gwaetha'r oedi, "mae'r wal ar agor ac ry'n ni'n edrych ymlaen at y dyfodol"
Dywedodd Dai Morgan – rheolwr cyffredinol gwesty'r Harbwrfeistr – fod y busnes wedi gorfod gosod byrddau ar draws eu ffenestri ac wedi cael llifogydd yn y seler yn ystod stormydd ar sawl achlysur.
Mae'n croesawu cwblhau'r gwaith.
Dywedodd: "Mae wedi bod yn brosiect anferth – mae wedi cymryd llawer mwy o amser nag yr oedd unrhyw un yn ei feddwl y byddai'n ei wneud.
"Roedd llawer o boen meddwl beth fyddai'n digwydd nesaf. Ond nawr mae'r wal ar agor ac ry'n ni'n edrych ymlaen at y dyfodol.
"O'r hyn welsom ni eisoes gyda'r morglawdd newydd, dyna'r newid mawr – cawsom storm fis Mai diwethaf a llifodd y dŵr i mewn ac ni ddaeth yn gyflym i mewn i'r harbwr.
"Arferai daro yn erbyn y wal a tharo'n ôl i'r harbwr, felly nid yw'r effaith daro honno wedi bod yn digwydd."

Dywed Llywodraeth Cymru: "Rydym yn darparu cyllid i Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru ar gyfer prosiectau sy'n helpu i gyflawni amcanion y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.
"Unwaith y bydd cyllid wedi'i sicrhau o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, asiantaethau unigol sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau hyn.
"Felly, Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gynllun rheoli risg arfordirol Aberaeron."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020