Arestio dau ddyn yn dilyn lladrad Amgueddfa Sain Ffagan

- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o ddwyn eitemau o Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Cafodd y dynion - 43 a 50 oed o Northampton - eu harestio brynhawn Mawrth ac maen nhw yn y ddalfa yn Sir Northampton.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i'r lladrad ar ôl derbyn adroddiadau tua 00:30 fore Llun.
Cafodd gemwaith aur o'r Oes Efydd ei ddwyn o arddangosfa yn y prif adeilad.
Mae'r llu yn parhau i chwilio am yr eitemau a gafodd eu dwyn.

Cafodd y ddau ddyn eu harestio brynhawn Mawrth, ac maen nhw yn y ddalfa yn Sir Northampton
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan eu bod "yn falch o glywed y datblygiad hwn yn yr ymchwiliad".
Amgueddfa Cymru sy'n gyfrifol am y safle, ac wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd prif weithredwr y sefydliad, Jane Richardson, fod y lladrad "mor siomedig" gan fod yr eitemau'n eiddo i "bobl Cymru".
"Dydyn nhw ddim just i'r bobl sy'n gweithio yn yr amgueddfa, maen nhw'n rhan o straeon Cymru... mae'n teimlo reit bersonol achos mae Amgueddfa Cymru yn teimlo fel teulu.
"Felly mae pawb mor drist heddiw achos mae'n teimlo fel attack ar deulu Cymru."
Awgrymodd Jane Richardson fod y lladrad yn teimlo fel ymosodiad personol ar "deulu Cymru"
Dywedodd Ms Richardson fod gwylio deunydd fideo o'r lladrad yn "emosiynol".
"Mae'r eitemau y cymeron nhw yn arbennig iawn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 awr yn ôl