Cymru'n paratoi am doriadau gan y Canghellor

  • Cyhoeddwyd
Chancellor George OsborneFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfnod yr adolygiad gwariant yn mynd y tu hwnt i'r etholiad cyffredinol nesaf

Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi i glywed faint o gwtogiad fydd yn ei chyllideb wrth i'r Canghellor George Osborne gyhoeddi ei adolygiad gwariant cyhoeddus yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Bydd Mr Osborne yn datgelu faint fydd gan y cyrff datganoledig i'w wario yn 2015 a 2016.

Bydd ysgolion ac ysbytai yn Lloegr yn cael eu gwarchod rhag doriadau pellach, sy'n golygu - o dan drefn Fformiwla Barnett - y bydd talp sylweddol o gyllideb Llywodraeth Cymru hefyd yn cael ei warchod.

Ond fe fydd toriadau i lywodraeth leol yn Lloegr yn golygu gwasgfa ar yr arian fydd ar gael yng Nghymru, er mai gweinidogion ym Mae Caerdydd fydd yn penderfynnu sut i ddosbarthu'r arian yna.

Fe fydd S4C yn gwylio'r araith yn ofalus wrth i gyllideb Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Whitehall yn cael ei gwtogi, gan arwain at bryder y bydd yr arian sy'n dod yn uniongyrchol o San Steffan i'r sianel yn diflannu'n llwyr.

Adroddiad Comisiwn

Mae disgwyl i'r canghellor liniaru rhywfaint ar effaith y toriadau drwy gyhoeddi cynlluniau cyfalaf allai greu swyddi a hybu'r economi.

Eisoes mae Mr Osborne wedi nodi'r angen am waith ar draffordd yr M4 yn ardal Casnewydd. Mae cefnogwyr y cynllun yn gobeithio cael sêl bendith y canghellor yr wythnos hon.

Byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi'r hawl i fenthyca, ond er bod cytundeb mewn egwyddor i ganiatáu hynny, does dim ymrwymiad cyfreithiol hyd yma.

Dywedodd prif ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, bod y cynllun M4 ynghlwm ag adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli, ac mae disgwyl i lywodraeth y DU ymateb i argymhellion yr adroddiad yn fuan.

Mae disgwyl i weinidogion yng Nghaerdydd a San Steffan anghytuno am faint y toriadau, ond mae'r ddwy ochr yn cydnabod y bydd rhaid i Lywodraeth Cymru ymdopi gyda llai o arian i wario.

Mae cyfnod dan sylw yn yr adolygiad o wariant cyhoeddus yn cynnwys y flwyddyn ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf, ac mae'n bosib y bydd canghellor gwahanol yn y swydd erbyn hynny.

Ond gyda canghellor yr wrthblaid Ed Balls yn awgrymu y byddai Llafur yn glynu at y cynlluniau fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth, does fawr o gysur yn hynny o Lywodraeth Cymru.