Deddf iaith: 'galwadau ffôn bygythiol'
- Cyhoeddwyd
Derbyniodd John Elfed Jones "ddegau o alwadau ffôn bygythiol" pan roedd, fel cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn gweithio ar baratoi deddf iaith 1993.
Roedd y bwrdd yn un ymgynghorol ar y pryd. Rhoddodd deddf 1993 statws statudol i'r bwrdd, yn ogystal â gorfodi cyrff cyhoeddus i baratoi cynlluniau iaith.
Yn ei hunangofiant, Dyfroedd Dyfnion, a gyhoeddir ddydd Gwener, mae John Elfed Jones yn disgrifio'r cyfnod o lunio'r ddeddf fel un "annifyr o anghyfforddus i mi'n bersonol."
Roedd rhai yn teimlo bod yr hyn a gynigiwyd yn mynd yn rhy bell ac eraill yn teimlo ei fod yn annigonol.
Galwad ganol nos
"Derbyniais ddegau o alwadau ffôn bygythiol, rhai ohonyn nhw yn hwyr iawn y nos.
"Rwy'n cofio'n arbennig un alwad ganol nos gan ddyn - Cymro yn bygwth llosgi'r tŷ i lawr. 'Gobeithio bod gynnoch chi ddigon o ddŵr yn y tŷ,' oedd ei eiriau."
Mae e hefyd yn son am gael ei ddilyn o gwmpas maes yr Eisteddfod a phobl yn "herio ac yn bersonol gas".
Ar waetha'r boen a achosodd hyn iddo, mae Mr Jones yn nodi ei fod yn "hynod falch" iddo gael y cyfle.
'Y rhyfel yn parhau'
Yn y pen draw, wedi cyfaddawdu gan y ddwy ochr: "Mi gafwyd Deddf Iaith, ac enillwyd y frwydr," meddai.
Ond mae Mr Jones yn rhybuddio bod y "rhyfel yn parhau a pheidied neb a meddwl nad oes yng Nghymru rai sy'n wirioneddol elyniaethus tuag at y Gymraeg."
Roedd yn drist fod Bwrdd yr Iaith wedi ei ddiddymu yn 2011, ac mae ganddo amheuon am y gyfundrefn newydd - Swyddfa'r Comisiynydd a sefydlwyd yn yr un flwyddyn i hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg.
Er bod ganddo barch mawr tuag at Meri Huws, sy'n fenyw "alluog iawn" yn ei olwg e, ac "yn ddiflino yn ei hymroddiad dros yr iaith", mae e'n holi a all y Comisiynydd fod yn ddigon annibynnol o Lywodraeth Cymru.
Mae'n ofni bod ymyrraeth llywodraethau San Steffan a Chaerdydd wedi mynd yn ormodol, ac yn canmol yr agwedd Americanaidd "If it ain't broke, don't fix it."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012