Nigel Barnett yw'r ail uwchswyddog gafodd ei arestio

  • Cyhoeddwyd
Nigel Barnett
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Barnett oedd prif weithredwr dros dro Cyngor Caerffili

Nigel Barnett yw'r ail uwchswyddog gafodd ei arestio ar amheuaeth o dwyll a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Roedd wedi bod yn arwain Cyngor Caerffili ers i'r prif weithredwr Anthony O'Sullivan gael ei wahardd ym mis Mawrth.

O'Sullivan oedd y dyn arall gafodd ei arestio gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddydd Mawrth.

Mae'r ddau wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae'r heddlu'n ymchwilio yn sgil adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

Dywedodd y cyngor eu bod yn cydweithio'n llawn.

Arwain

Mae Sandra Aspinall, dirprwy brif weithredwr gweithredol y cyngor sir, wedi dweud y byddai'n arwain y cyngor tan y byddai trafodaethau pellach.

"Byddwn yn canolbwyntio o hyd ein hymdrechion ar ddarparu gwasanaethau o safon uchel i bobl leol ac ni fydd digwyddiadau diweddar yn effeithio ar ein hymroddiad ni."

Gofynnodd Heddlu Gwent i Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ystyried adroddiad SAC ym mis Mawrth.

Adolygu

Roedd yr adroddiad yn argymell bod y cyngor yn adolygu ei ddulliau gweithredu, yn enwedig mewn cysylltiad â hysbysebu cyfarfodydd.

Er bod Heddlu Gwent wedi edrych ar yr adroddiad eu hunain fe ofynnon nhw am help y llu arall gan fod ganddyn nhw "berthynas weithiol" gyda'r cyngor.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod yr ymchwiliad yn parhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol