'Yr atyniad antur mwya'

  • Cyhoeddwyd
Calon AnturFfynhonnell y llun, TPNW

Mae cynllun newydd yn anelu at droi Gogledd Cymru yn brif gyrchfan gwyliau antur y DU.

Gweledigaeth Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yw cynllun Calon Antur.

Mae'r sector eisoes yn cyflogi dros 8,500 o bobl ac yn dod â £150 miliwn y flwyddyn i economi'r gogledd.

Ond mae'r bartneriaeth yn credu bod modd creu 'brand' fyddai'n codi'r gogledd i fod yn un o'r pum brif gyrchfan i ymwelwyr yn y DU - a'r uchaf o blith pobl sy'n chwilio am wyliau antur.

'Un llais'

Dywedodd cyfarwyddwr y bartneriaeth Dewi Davies: "Mae'r diddordeb mewn gweithgareddau antur awyr agored wedi tyfu'n gyson, boed hynny'n bobl yn dod am benwythnos neu'r rhai sy'n chwilio am antur.

Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Zip World yn Nyffryn Ogwen oedd y cyntaf i ymuno â'r cynllun

"Ein teimlad ni oedd y byddai gweithio gyda busnesau ac atyniadau, siarad gydag un llais, yn dangos beth sydd gan Gogledd Cymru i'w gynnig."

Nod y bartneriaeth yw perswadio 50 o fusnesau sy'n gweithio yn y sector yn y gogledd i ymuno gyda'r cynllun, yn ogystal â phump o ddigwyddiadau yn y calendr gweithgareddau awyr agored.

Oherwydd hynny mae 25 o swyddi newydd yn cael eu creu a £500,000 o incwm i'r rhanbarth.

Un o'r cwmnïau cyntaf i ymuno oedd Zip World ym Methesda, Gwynedd, sef y wifren wibio hiraf yn Ewrop.

'Heriol'

Cafodd Calon Antur ei lansio mewn derbyniad cwmni offer dringo DMM yn Llanberis.

Maen nhw'n cynhyrchu offer dringo sy'n cael eu hallforio o amgylch y byd a dywedodd eu rheolwr allforio Ben Slack fod y gogledd yn cynnig rhywbeth unigryw i ddringwyr.

"Mae'r graig yma yn anhygoel," meddai. "Mae'n arbennig os ydych chi'n edrych ar y llechen, clogwyni neu'r tywodfaen.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Slack bod dringo yn y gogledd yn "heriol iawn"

"Mae'n heriol iawn ac yn ddim byd tebyg i'r hyn gewch chi ar dir mawr Ewrop, er enghraifft.

"Wrth gwrs, mae gan y gogledd fwy na hynny i'w gynnig - mae beicio mynydd, canŵio, cerdded neu bethau anturus eraill ac rwy'n credu bod y bartneriaeth wedi gwneud y peth iawn i greu'r brand Calon Antur."

Ychwanegodd Mr Davies: "Rhaid i ni sicrhau ein bod nid yn unig yn cynnig croeso cynnes ond yn cynorthwyo pobl i arbrofi gyda'r ystod eang o weithgareddau antur yr ydym yn eu cynnig.

"Y neges yw bod Gogledd Cymru'n unigryw - mae'n ganolog, popeth yn agos at ei gilydd ac mae'n wlad wahanol gyda gwahaniaethau diwylliannol i'w mwynhau hefyd."