Ymchwiliad nodiadau cleifion: Arestio ail nyrs

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysoges CymruFfynhonnell y llun, Mick Lobb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy nyrs wedi eu gwahardd o'u gwaith tra bod yr ymchwiliad gan yr heddlu yn cael ei gynnal

Mae nyrs arall wedi cael ei harestio gan yr heddlu wrth iddyn nhw ymchwilio i honiadau bod nodiadau cleifion wedi eu ffugio yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd y fenyw 31 oed ei gwahardd o'i gwaith yn syth pan ddaeth y mater i'r amlwg ac mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Hi yw'r ail nyrs i gael ei harestio mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

Cafodd nyrs arall ei rhyddhau ar fechnïaeth yn dilyn honiadau o esgeulustod yn yr ysbyty ym mis Mehefin.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg roddodd wybod i'r heddlu am yr honiadau.

Mae swyddogion yr heddlu yn cysylltu gyda chleifion neu deuluoedd cleifion.