Adnewyddu cofeb i filwyr Cymru yn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Cofeb Mametz
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i adnewyddu'r cofeb i filwyr a fu farw ym mrwydr Mametz

Bydd cofeb i filwyr Cymreig a fu farw ym Mrwydr Coed Mametz yng ngogledd Ffrainc yn cael ei hadnewyddu.

Cafodd 4,000 o filwyr eu lladd neu eu hanafu dros 6 diwrnod o ymladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae cofeb i'r dynion o Adran 38 y Fyddin eisoes yn sefyll ger lleoliad y frwydr, i nodi dioddefaint y milwyr ym mis Gorffennaf 1916.

Ond mae Llywodraeth Cymru am gyfrannu arian i adnewyddu'r gofeb erbyn canmlwyddiant y frwydr.

Cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths y byddai'r Llywodraeth yn rhoi cymorth i Gangen De Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r gofeb.

Mae'r gofeb, draig goch fetel wedi ei greu gan David Petersen, yn sefyll ar fryn yn agos i bentref Mametz, yn edrych dros y goedwig lle bu'r milwyr yn ymladd.

Roedd y frwydr yn rhan o frwydr enfawr y Somme, lle cafodd miliwn o filwyr o'r ddwy ochr eu lladd a'u hanafu.

Nodwedd adnabyddus

Yn ôl John Dixon o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, mae'r gofeb yn nodwedd bwysig ar y safle.

Meddai: "Yn y 26 mlynedd ers i'r Gangen godi'r gofeb, mae wedi dod yn nodwedd adnabyddus sy'n arwyddo maes brwydro'r Somme."

"Yn ystod y blynyddoedd hynny, mae wedi bod yn rhan o lwybr llawer sy'n ymweld â maes y frwydr, a phlant ysgol o Gymru yn eu plith."

Dywedodd y gweinidog John Griffiths bod y gofeb yn rhan o gynlluniau'r Llywodraeth i nodi canmlwyddiant dechrau'r rhyfel eleni:

"Mae'n anodd dychmygu beth oedd profiadau'r dynion yna, ond rydyn ni'n gwybod gwnaethon nhw ddioddef caledi a dioddefaint mawr. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i'w cofio nhw ac anrhydeddu eu haberth."

"Mae'r wythnos hon yn nodi 97 o flynyddoedd ers y frwydr, a ymladdwyd dros 6 diwrnod ym mis Gorffennaf 1916, ac rydw i'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu Cangen De Cymru o Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin i ailwampio'r gofeb hon."