Duges Caergrawnt wedi mynd i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Duges CaergrawntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd y dyddiad yr oedd disgwyl i'r babi gael ei eni ddim wedi cael ei gyhoeddi

Mae Duges Caergrawnt wedi cael ei chludo i'r ysbyty ac mae hi yng nghamau cynta'r broses o eni.

Fe deithiodd mewn car gyda'i gŵr, Dug Caergrawnt, o Balas Kensington i Ysbyty'r Santes Fair yn Paddington, Gorllewin Llundain, ble y ganwyd y Tywysog William a'i frawd, Harry.

Dyw'r pâr ddim yn gwybod beth fydd rhyw'r plentyn.

Does dim disgwyl rhagor o wybodaeth nes bydd cyhoeddiad swyddogol am yr enedigaeth.

Mae cyfryngau'r byd wedi bod yn gwersylla'r tu allan i'r ysbyty ers dyddiau yn disgwyl am ddatblygiad. Doedd y dyddiad yr oedd disgwyl i'r babi gael ei eni ddim wedi cael ei gyhoeddi ond roedd dyfalu y byddai rywbryd ynghanol mis Gorffennaf.

Cafodd cerbydau brenhinol eu gweld wrth fynedfa gefn yr ysbyty am 6:00yb ddydd Llun, a daeth cyhoeddiad o Balas Kensington hanner awr yn ddiweddarach.

Traddodiad

Mae'r dduges yn cael ei thrin gan dîm meddygol dan arweiniad un a fu'n gynecolegydd i'r Frenhines, Marcus Setchell, a oedd wedi geni dau blentyn Duges Wessex.

Yn ei gynorthwyo mae Alan Farthing, cyn ddyweddi'r cyflwynydd teledu a gafodd ei llofruddio, Jill Dando. Fo yw gynecolegydd y Frenhines ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i'r Tywysog William gymryd pythefnos o seibiant tadolaeth.

Bydd yr enedigaeth yn cael ei chyhoeddi yn y ffordd draddodiadol ar gyfer plant brenhinol - gydag arwydd yn cael ei osod y tu allan i Balas Buckingham.

Y Frenhines a phrif aelodau'r teulu brenhinol, ynghyd â theulu'r dduges, fydd yn cael gwybod am y newydd gynta'.

Yna, bydd un o'r gweinyddwyr brenhinol yn cludo neges o'r ysbyty i'r palas dan oruchwyliaeth yr heddlu.

Wedi i'r arwydd gael ei osod y tu allan i'r palas, bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud ar wefannau Twitter a Facebook, a bydd y cyfryngau'n cael gwybod.