Newidiadau iechyd dros gyfnod yr haf
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth meddygol newydd yn cael ei brofi yn Ninbych-y-pysgod ar benwythnosau rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.
Y Groes Goch fydd yn cynnal y gwasanaeth peilot yn ysbyty'r dref, a hynny yn ystod gŵyl y banc mis Awst hefyd.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal ochr yn ochr â'r gwasanaeth mân anafiadau yn yr wythnosau cyntaf er mwyn caniatáu i'r bwrdd iechyd asesu effeithiolrwydd.
Bydd Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod yn parhau i weithredu'r gwasanaeth arferol yn ystod yr wythnos dros yr un cyfnod.
Dywedodd Sue Lewis, o Fwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae cael y ddarpariaeth yma drwy'r Groes Goch yn adlewyrchu awydd y bwrdd iechyd i sefydlu partneriaethau wrth weithio gyda'r trydydd sector mewn dull mwy arloesol.
"Bydd hefyd yn rhyddhau nyrsys yr adrannau brys er mwyn iddynt fedru defnyddio eu sgiliau proffesiynol i gryfhau a chefnogi'r gwasanaethau prysur yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Llwynhelyg."
Dywedodd Nigel Davies, uwch reolwr gwasanaeth y Groes Goch: "Rydym yn falch iawn o'r cyfle i fedru profi'r gwasanaeth newydd yma yn Ysbyty Dinbych-y-pysgod yr haf hwn.
"Grŵp o unigolion cymwys fydd yn cynnal y gwasanaeth, a byddant yn defnyddio eu profiad wrth ddarparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau cyhoeddus er mwyn darparu gofal o'r ansawdd gorau ar gyfer pobl sy'n ymweld â'r ysbyty.
"Mae gwirfoddolwyr y Groes Goch yn mynychu ystod eang iawn o ddigwyddiadau, yn gystadlaethau chwaraeon i gyngherddau cerddorol enfawr mewn stadiwm. Pan fo damweiniau'n digwydd neu salwch yn taro, bydd eu gwybodaeth yn hanfodol wrth ddarparu triniaeth ac atal niwed pellach."
Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng Gorffennaf 14 a Medi 7.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2013