Gwasanaeth Iechyd: dyfodol ariannol heriol

  • Cyhoeddwyd
Adroddiad ar y wasanaeth iechydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dweud bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu mwy o doriadau na gweddill Prydain

Mae llawdriniaethau wedi cael eu gohirio, a rhestrau aros yn tyfu mewn ymgais gan y Gwasanaeth Iechyd i geisio arbed arian yng Nghymru.

Dyna mae Swyddfa Archwilio Cymru yn ei ddweud wrth gyhoeddi adroddiad i gyllid y Gwasanaeth Iechyd.

Mae'r adroddiad yn dweud bod byrddau iechyd yn wynebu dyfodol anodd yn ariannol, wrth iddyn nhw geisio arbed £404m eleni.

Ond, mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod llwyddiant y gwasanaeth i aros o fewn ei gyllideb yn 2012/13.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud bod yr adroddiad yn dangos y straen y mae'r gwasanaeth yn wynebu.

£404m

Mae £192m wedi ei arbed yn barod drwy doriadau, ond mae'r Swyddfa yn rhybuddio y bydd hi'n anoddach i wneud mwy o doriadau heb effeithio ar safonau gofal i gleifion.

Mae'r Swyddfa hefyd yn feirniadol o'r modd y mae byrddau iechyd wedi arbed arian, gan gynnwys gohirio nifer o lawdriniaethau oedd wedi eu cynllunio, er mwyn lleihau gwariant.

Mae'r adroddiad yn rhybuddio nad ydy hynny yn rhoi gwerth am arian, nac yn gynaliadwy.

Yn ôl yr adroddiad, mae perfformiad y gwasanaeth mewn gofal brys hefyd wedi gwaethygu, a dydy targedau trin cleifion canser ddim yn cael eu cyrraedd.

Ond mae'r GIG wedi llwyddo i leihau amseroedd aros mewn ysbytai, dod i'r afael a heintiau fel MRSA a C Difficile, ac mae gofal i bobl sydd wedi dioddef o strôc wedi gwella.

Cyllid ychwanegol

Er bod y gwasanaeth wedi llwyddo i wario llai na'r gyllideb a roddwyd, dywedodd yr adroddiad bod hyn oherwydd cyllid ychwanegol gan y llywodraeth o £92m.

Daeth hyn er i'r llywodraeth ddweud na fyddai'n rhoi unrhyw arian ychwanegol i fyrddau iechyd ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

Mae'r Swyddfa yn honni bod hyn ond yn ateb "byr-dymor", ac yn rhoi negeseuon cymysg i awdurdodau iechyd.

Mae'r Swyddfa hefyd yn feirniadol o ffigyrau sydd wedi eu "gorliwio" gan fyrddau, a bod y rhain yn canolbwyntio yn ormodol ar gyrraedd targedau byr-dymor.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y sefyllfa ariannol yng Nghymru ymysg yr anoddaf ym Mhrydain, gyda gwariant i bob pen ym maes iechyd yn llai 'na'r Alban, gogledd Iwerddon ac ardaloedd tebyg yn Lloegr.

Ymateb

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd Darren Millar AC bod angen i'r Llywodraeth atal toriadau i gyllideb y gwasanaeth iechyd:

"Mae perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi plymio ac mae gofal i gleifion wedi ei gyfaddawdu oherwydd toriadau gan y blaid Lafur.

"Gyda diffyg o £212 miliwn yn y flwyddyn ariannol yma, mae'r sefyllfa yn debygol o waethygu. Rydw i'n annog gweinidogion Llafur i weithredu i achub ein gwasanaeth iechyd."

Dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, mai cleifion oedd yn talu'r pris am gamreolaeth y Llywodraeth o'r gwasanaeth:

"Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru dan straen anferthol. Mae'r adroddiad yn dweud bod y GIG yn annhebygol o gynnal lefelau presennol o wasanaeth a pherfformiad.

"Mae amseroedd aros ambiwlansys yng Nghymru'r hiraf yn y DU, mae targedau amseroedd aros i drin canser wedi ei methu ers 2008 a dydy targedau gofal brys erioed wedi eu cyrraedd.

"Mae meddwl y gall rhai gwasanaethau ddirywio ymhellach yn arswydus."

Ond yn ol y gweinidog iechyd, Mark Drakeford mae'r adroddiad yn dangos bod perfformiad yn gallu gwella, er gwaethaf y sefyllfa anodd:

"Er yr amgylchiadau anodd iawn yma, mae'r adroddiad yn dangos bod y GIG yn hynod wydn. Hyd yn oed mewn adegau caled, mae perfformiad yn gallu gwella."