Llywodraeth Cymru'n gostwng targedau arbed ynni

  • Cyhoeddwyd
Arbed ynni
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gweinidog fod angen cydbwysedd rhwng yr angen i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr a datblygu economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gostwng targedau arbed ynni mewn cartrefi.

O flwyddyn nesa' ymlaen bydd rheoliadau adeiladu'n golygu 8% nid 40% yn llai o allyriadau carbon.

O ganlyniad bydd cost codi tŷ £4,000 yn llai.

Cydbwysedd

Yn Nhachwedd rhybuddiodd Cadeirydd Redrow Steve Morgan y byddai rheoliadau llym yn golygu y byddai codi tai fforddiadwy yn anymarferol mewn ardaloedd fel Wrecsam a Chymoedd y De.

Ddydd Mercher dywedodd y Gweinidog Tai Carl Sargeant wrth y Pwyllgor Cymunedau fod angen cydbwysedd rhwng yr angen i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr a datblygu economaidd.

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi anelu at y cydbwysedd cywir," meddai.

'Heriol'

"Fydd hyn ddim yn ddigon i rai a dwi'n disgwyl y bydd rhai mudiadau'n dweud ein bod yn llaesu dwylo. Ond dydyn ni ddim.

"Rydym yn ymroddedig i gyflawni hyn o fewn yr amserlen ond mi fydd yn heriol ..."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Redrow yn Ne Cymru Stuart Rowlands ei fod yn llongyfarch y gweinidog am "wrando ar lais y diwydiant".

"Mae hyn yn help i'r diwydiant ar adeg anodd iawn."

Dywedodd Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear: "Mae'r llywodraeth wedi ildio i lobïo y cwmnïau mawr.

"Y nhw sy' wedi ca'l y canlyniad gore."