Y trysor yn y mawn

  • Cyhoeddwyd
Cerfiadau derw
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cerfiadau eu darganfod ar bostyn derw gan weithwyr yn tyllu yn Maerdy yn y Rhondda

Mae gweithwyr wedi dod o hyd i gerfiadau hynafol ar safle fferm wynt Maerdy yn Rhondda Cynon Taf.

Daethpwyd o hyd i nifer o byst derw, un sydd â cherfiadau manwl arno, a'r gred yw eu bod yn 6,720 o flynyddoedd oed.

Mae archeolegwyr yn dweud bod y postyn yn un o'r hynaf i gael ei ddarganfod yn Ewrop a'i fod yn perthyn i'r cyfnod Mesolithig neu Neolithig.

Mawn

Cafodd y pren ei ddarganfod mewn dyddodiad o fawn ym mis Medi'r llynedd.

Mae ganddo batrwm wedi ei gerfio ar ei ochr a phatrwm hirgrwn ar un pen.

Mae arbenigwyr yn credu y gall y postyn fod wedi dynodi ffin rhwng tiroedd llwythi gwahanol, safle hela neu dir sanctaidd.

Wedi i archeolegwyr sylwi ar bwysigrwydd y darnau fe gafon nhw eu cludo i Ganolfan Llong Casnewydd i'w diogelu mewn tanc dŵr arbennig.

Mae nifer o arbenigwyr ac archeolegwyr wedi archwilio'r pren i geisio dysgu mwy amdano.