Gwobrwyo Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn eisoes yn un o brif wobrau llenyddol Cymru, gyda'r tlws yn dathlu llwyddiannau awduron Cymraeg a Saesneg.
Ymhlith enillwyr y gorffennol mae'r hanesydd John Davies, yr ymgyrchydd iaith Gareth Miles, a'r awdur straeon byrion Jon Gower.
Mae panel o feirniaid yn dewis enillydd o bob categori: ffuglen, barddoniaeth a ffeithiol greadigol. Byddant yn derbyn £2,000 fel gwobr, gydag un yn ennill y prif dlws ac yn derbyn £6,000.
Wedi iddo ennill y wobr Gymraeg llynedd, mae Jon Gower wedi llwyddo cyrraedd y rhestr fer eto eleni, y tro hon ar gyfer y wobr Saesneg.
Wrth edrych nôl ar ei lwyddiant y llynedd, dywedodd Mr Gower: "Yn greadigol roedd e'n hwb sylweddol. Rwy wedi penderfynu ysgrifennu llyfr mawr, sydd yn dechrau yn Honduras yng nghanol America ac yn mynd yr holl ffordd lan i Alaska."
Hyder
"Mae fe'n cynnwys Saesneg a Sbaeneg, a fyddwn i ddim wedi cael yr hunan hyder i neud y fath hynny o beth yn y gorffennol. Felly yn greadigol roedd ennill Llyfr y Flwyddyn yn hwb sylweddol a phwysig iawn."
Awdur arall sydd a'r cyfle i ennill gwobrau yn y ddwy iaith yw Meic Stephens, ond gall ei lwyddiant ef ddod yn yr un flwyddyn. Eleni mae wedi'i enwebu yn Gymraeg am ei hunangofiant, Cofnodion, tra bod ei gasgliad o goflithoedd, Welsh Lives, ar restr fer y llyfrau Saesneg.
Yn Gymraeg bydd Meic Stephens yn cystadlu yn erbyn Heini Gruffudd ac Aled Jones Williams yn y categori ffeithiol greadigol; Manon Steffan Ros, Tony Bianchi a Dewi Prysor sydd wedi'u henwebu am eu ffuglen; a Llion Jones, Eigra Lewis Roberts ac Aneirin Karadog sydd yn cystadlu yng nghategori barddoniaeth y wobr.
Bydd enillwyr pob categori, yn o gystal ag enillwyr y prif dlws, yn cael eu cyhoeddi ar nos Iau. Bydd rhaglen arbennig o Stiwdio yn dod o'r seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar BBC Radio Cymru am 21:00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2012