Cyhoeddi enillwyr Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae llyfrau gorau'r llynedd wedi cael eu gwobrwyo yn seremoni Llyfr y Flwyddyn yng Nghaerdydd.
Heini Gruffudd ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth Gymraeg am ei gyfrol 'Yr Erlid'.
Mae'r llyfr yn olrhain hanes ei fam a'i theulu yn yr Almaen, dan reolaeth y Natsïaid yn ystod yr ail ryfel byd.
Rhian Edwards oedd enillydd y brif wobr Saesneg, am ei llyfr barddoniaeth, 'Clueless Dogs'.
Penderfynodd y beirniaid eleni, Alun Gibbard, Bethan Elfyn ac Elin ap Hywel, mai hanes ffeithiol-greadigol Heini Gruffydd o garu, casáu a lladd oedd yn haeddu'r brif wobr.
Gwobrau eraill
Aneirin Karadog ddaeth i'r brig yn y categori barddoniaeth.
Dewiswyd cyfrol gyntaf y bardd a chyflwynydd teledu, 'O Annwn i Geltia' gan y beirniaid.
'Blasu' gan Manon Steffan Ros oedd yn fuddugol yng nghategori'r ffuglen orau.
Ym mhleidlais y bobl, cyfrol farddoniaeth 'Trydar Mewn Trawiadau' gan Llion Jones enillodd, a chafodd y bardd waith celf arbennig yn wobr.
Yn Saesneg, John Harrison sydd wedi dod i'r brig yn y categori Ffeithiol-greadigol gyda'i lyfr taith 'Forgotten Footprints', a James Smythe yw enillydd y categori Ffuglen gyda'i nofel 'The Testimony'.
Cafodd enillydd pob categori wobr o £2,000, gyda £6,000 yr un i enillwyr y brif wobr yn Gymraeg a Saesneg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2013