Ymgynghoriad ar blismona gwledig

  • Cyhoeddwyd
Simon Prince
Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Prince yn dweud bod pobl yn teimlo yn fwy bregus mewn cymunedau ynysig gwledig

Mae Heddlu Dyfed Powys yn cychwyn cyfnod o ymgynghori gyda'r cyhoedd er mwyn llunio strategaeth ar blismona mewn ardaloedd gwledig.

Mae'r ymgynghoriad, fydd yn para chwe wythnos, wedi ei drefnu ar orchymyn Comisiynydd yr Heddlu, Christopher Salmon, a'r bwriad ydy penderfynu sut dylai'r gwasanaeth fodoli yn y dyfodol.

Dywed y Comisiynydd mae dyma'r ardal fwyaf y mae'r heddlu yn gyfrifol amdano yng Nghymru a Lloegr a dyma'r ardal fwyaf gwledig hefyd:

"Mae angen i ni fod yn arbenigwyr y wlad ar blismona mewn ardal wledig.

"Fel y dywedodd Sherlock Holmes, mae pobl yn agored i niwed ar ffyrdd gwledig. Ceisio taclo hynny yw'r rheswm pam fy mod wedi gofyn i'r prif gwnstabl gynhyrchu strategaeth ar gyfer plismona gwledig."

Heriau

Yn ystod y chwe wythnos bydd yr heddlu yn ceisio cael barn amryw o bobl sydd yn byw yn y cymunedau er mwyn cael gwybod eu teimladau am y gwasanaeth mae'r heddlu'n darparu a'r hyn y gallan nhw wneud i wella pethau.

Mae'r Prif Gwnstabl Simon Prince yn cydnabod bod yna heriau yn ei wynebu wrth weithio mewn ardal wledig:

"Mae osgoi a chanfod trosedd yn aml yn fwy anodd gan fod yna weithiau llai o dystion pan fo tor- cyfraith yn digwydd. Yn ogystal mae rhai o'r cymunedau wedi eu hynysu ac fe all hynny wneud iddyn nhw deimlo yn fregus.

"Dw i'n ymwybodol iawn bod troseddau gwledig yn cael effaith ar y dioddefwyr ac mae'r golled economaidd yn dilyn lladrad yn medru cael canlyniadau hirdymor ar yr unigolyn, y busnes a'r economi.

"Am y rheswm hynny mae'n holl bwysig bod gyda ni strategaeth ar gyfer plismona gwledig sydd yn golygu ein bod yn rhoi'r gwasanaeth gorau posib i bawb."

Mae Mr Prince yn dweud ei bod hi'n bwysig bod pobl sydd yn byw yng nghefn gwlad yn teimlo bod yr heddlu yn cymryd materion gwledig o ddifri ac y dylen nhw allu disgwyl gwasanaeth cystal â'r hyn sydd yn cael ei gynnig mewn trefi a dinasoedd:

"Dyw un ffordd o wneud rhywbeth ddim yn gweddu i bawb. Mae'n rhaid i'n gwasanaeth ni gael ei deilwra i gwrdd ag amcanion y gwahanol gymunedau, ardaloedd a busnesau."

Swyddog penodol

Mae'r unedau amaethyddol wedi croesawu'r cyhoeddiad a ddaw yn ystod wythnos y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Yn ôl Meinir Bartlett, o Undeb Amaethwyr Cymru, fe ddylai'r heddlu gael swyddogion penodol i ddelio â materion ffermio a fyddai yn medru datblygu cysylltiadau gyda ffermwyr a dod yn wybodus yn y maes. Fe ddylai'r swyddogion yma fod yn arbenigwyr fel y byddai modd iddynt rannu eu gwybodaeth gyda heddweision eraill, meddai.

Ychwanegodd: "Mae ffermwyr yn pryderu fwyaf am anifeiliaid ac offer ffermio yn cael eu dwyn, gan gynnwys cerbydau ffermio."

Mae Bernard Llewellyn, o NFU Cymru, yn teimlo y dylai plismona yn y wlad fod yn flaenoriaeth i Heddlu Dyfed Powys ac mae'n annog y cyhoedd i ddweud eu dweud yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad.

Fe all unrhyw un sydd eisiau dweud eu barn wneud hynny trwy fynd i stondin yr heddlu yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, gadael neges ar wefan Twitter neu trwy lenwi ffurflen ar wefan Heddlu Dyfed Powys.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol