'Plismyn cefn gwlad' i gwrdd â ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd plismyn arbennig gyda Heddlu'r Gogledd yn cwrdd â ffermwyr yn ddiweddarach i drafod ffyrdd o fynd i'r afael â throseddau yng nghefn gwlad.
Mae'r 'plismyn cefn gwlad' fel y maen nhw'n cael eu hadnabod yn cyflawni'r un rôl â swyddogion cynorthwyol cymunedol yr heddlu (PCSO) ond mewn ardaloedd gwledig.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, mae troseddau fel dwyn metel a dwyn peiriannau fferm megis beiciau cwad ar gynnydd mewn ardaloedd gwledig.
Fel ymateb i hynny bydd PCSO Elliw Williams a PCSO Llinos Jones yn trafod y sefyllfa gyda'r ffermwyr yn Nolgellau ddydd Gwener.
Dywedodd yr Arolygydd Mark Armstrong o Heddlu'r Gogledd: "Mae dyletswyddau plismyn cefn gwlad yn cynnwys adolygu troseddau cefn gwlad, cysylltu gyda dioddefwyr a meithrin perthynas gyda ffermwyr.
"Mae PCSO Elliw Williams yn ferch i ffermwr ac yn briod â ffermwr. Mae'r cefndir yma'n ei chynorthwyo i feithrin perthynas dda gyda'r gymuned amaethyddol gan ei bod yn deall eu problemau."
'Blaenoriaeth'
Ychwanegodd bod y berthynas rhwng yr heddlu a'r ffermwyr yn gweithio'r ddwy ffordd.
"Mae'r plismyn cefn gwlad yn cysylltu gyda'r heddlu yn ddyddiol, gan dynnu sylw ei gilydd at faterion o bwys.
"Mae hyn yn cadarnhau ymrwymiad yr heddlu i gymunedau gwledig. Maen nhw'n cryfhau diwydiant sydd mor bwysig i economi Cymru."
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick:
"Taclo troseddau cefn gwlad yw'r un o'r blaenoriaethau sydd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, a gafodd ei gyhoeddi gennyf yn ddiweddar.
"Mae'n falch iawn gennyf weld bod Heddlu Gogledd Cymru yn taclo'r broblem hon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012
- Cyhoeddwyd29 Awst 2012