Neb yn deilwng

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cadeirio'r Bardd / Chairing of the Bard

Doedd neb yn deilwng o Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013.

Roedd y Gadair yn cael ei chynnig eleni am awdl neu gyfres o gerddi mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell ar y thema 'Lleisiau'.

Roedd 12 o ymgeiswyr eleni a'r beirniaid oedd Gerallt Lloyd Owen, Peredur Lynch a Myrddin ap Dafydd.

Dywedon nhw ei bod yn gystadleuaeth "ddiddorol" a'u bod wedi bod yn "pendroni am wythnosau".

Dyma'r 15fed tro yn hanes cystadleuaeth y Gadair (ers 1880) i neb fod yn deilwng - y tro diwethaf oedd ym Meirion a'r cyffiniau yn 2009.

'Heb chwysu digon'

Dywedodd Myrddin wrth draddodi'r feirniadaeth yn y Pafiliwn brynhawn dydd Gwener: "Y siom eleni yw bod y cynigion - am ba bynnag reswm - wedi eu hanfon heb chwysu digon dros y gwendidau.

"Y calondid yw bod dau o'r 12 wedi dangos bod ganddynt y ddawn i ennill Cadair y Genedlaethol a bod nifer o'r lleill yn ymestyn tuag ati. Ond, am eleni, mae'r Gadair yn cael ei hatal."

Roedd cryn ganmoliaeth i weithiau Dysgwr ac Emrallt ond doedd yr un o'r ddau wedi plesio'r beirniaid ddigon i hawlio'r Gadair.

'Cadw safon'

Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd yn cyhoeddi nad oes neb yn deilwng

Wrth siarad ar ôl y seremoni, dywedodd yr Archdderwydd Christine James:

"Yn naturiol mae pobl yn gobeithio y bydd yna wobrwyo yn y prif gystadlaethau ond os yw'r beirniaid o'r farn nad oedd safon wedi'i chyrraedd yr unig beth i'w wneud yw atal y wobr.

"Rwy'n credu y byddai hi'n ddiwrnod trist arnom ni pan fyddem ni'n teimlo fod yn rhaid rhoi'r wobr ond am fod cynulleidfa yn disgwyl hynny. Y mae cadw safon yn hollbwysig. Yr ydym yn genedl falch ac mae eisiau inni barhau i fod felly."

Dywedodd iddi gael ei chalonogi â'r ffaith i'r beirniaid weld addewid ymhlith y cystadleuwyr.

"Mae'n amlwg fod y beirniaid wedi gweld addewid ond bod yr addewid ddim wedi cyrraedd ei lawn botensial yn y gystadleuaeth eleni , ynte," meddai.

"Mae addewid bob amser yn codi calon ac rwy'n gobeithio yn awr y bydd y beirdd nad oedd yn llwyddiannus eleni yn mynd ati ac yn ymarfer a thwtio eu gwaith, efallai yn fwy manwl, cyn ei anfon i gystadleuaeth," ychwanegodd.

Bu Eisteddfodau Sir Ddinbych yn hanesyddol yng nghyd-destun Cadair y Brifwyl, gyda'r Gadair yn cael ei hennill gan ddysgwr am y tro cyntaf pan ddaeth Robat Powell i'r brig yn Y Rhyl yn 1985.

Yn 1973, gyda'r Eisteddfod yn Rhuthun, enillodd Alan Llwyd y Gadair a'r Goron, gan ailadrodd camp y 'dwbl' dair blynedd yn ddiweddarach yn 1976.

Ond cymysg yw llwyddiant y Gadair yn Ninbych ei hun, gyda diffyg teilyngdod yn 1882 a 1939.

Hanes

Ond fe grëwyd hanes y tro diwetha' i'r Brifwyl gael ei chynnal yno yn 2001, pan gadeirwyd Mererid Hopwood - y ferch gynta' erioed i ennill y wobr.

Dilwyn Jones, o Faerdy ger Corwen, oedd wedi cynllunio a chreu'r Gadair eleni a'r nod oedd cynrychioli tirlun Sir Ddinbych o'r môr i'r mynyddoedd.

Roedd y Gadair a'r wobr ariannol wedi'u cyflwyno gan Gerallt a Dewi Hughes er cof am eu rhieni, John a Ceridwen Hughes, Uwchaled.

Disgrifiad o’r llun,

Y gadair yn cael ei chario o'r pafiliwn

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol