Tywysog yn ymweld â'r Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw yn ymweld â'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Dyma'r seithfed tro i'r Tywysog ymweld â safle'r sioe, ond y tro cyntaf i'r Dduges.
Ddydd Mawrth, cafodd y Tywysog gyfle i gwrdd â'i ŵyr am y tro cyntaf, ond roedd y cwpl wedi gaddo ymweld â'r Sioe, ac mae'r Tywysog a'r Dduges wedi bod yn cwrdd ag ymwelwyr eraill y bore 'ma.
Roedd gobaith y byddai'r Tywysog William yn ymweld eleni gan fod ganddo gysylltiadau cryf gyda Sir Fôn, noddwyr y Sioe.
Ond ni fydd y Tywysog, sy'n hedfan hofrennydd achub yr Awyrlu yn y Fali, yn ymweld yn dilyn genedigaeth ei fab ddydd Llun.
Dywedodd llywydd y sioe Wyn Jones fod blaenoriaeth y Tywysog yn ddealladwy.
Bydd y Tywysog Charles, sy'n gyn lywydd Cymdeithas y Sioe Frenhinol, yn ymweld â Pafiliwn y Llywydd cyn iddo weld y cylch gwartheg a defaid.
Mae disgwyl i'r dduges ymweld â'r neuadd fwyd, a chwrdd â ffermwyr ifanc sydd ar Fforwm ieuenctid y Sioe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2013