Babi brenhinol yn gadael yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Babi brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o ddyfalu ynglŷn â beth fydd enw'r bachgen brenhinol

Mae'r babi brenhinol wedi gadael yr ysbyty ym mreichiau ei fam ddiwrnod ar ôl iddo gael ei eni yn Ysbyty St Mary's yn Llundain.

Dywedodd gwraig y Tywysog William ei fod yn "foment arbennig ar gyfer unrhyw riant".

Mae'r cwpl yn dal i "weithio ar yr enw" yn ôl Dug Caergrawnt.

Wrth siarad gyda'r wasg, dywedodd y cwpl ei fod yn amser "emosiynol iawn".

Diolch

Roedd Dug a Duges Caergrawnt eisoes wedi diolch i staff yr ysbyty am eu gofal.

Cafodd y tywysog ei groesawu gyda salíwt gan Fagnelwyr Brenhinol yn Nhŵr Llundain a Green Park brynhawn ddydd Mawrth, tra bod clychau Abaty San Steffan wedi canu yn arbennig i'r babi newydd hefyd.

Mae rhieni Duges Caergrawnt, Michael a Carole Middleton wedi teithio i'r ysbyty yn Llundain i weld eu ŵyr newydd am y tro cyntaf.

Wedi ei hymweliad, dywedodd Carole Middleton ei bod wedi cyffroi, a bod y babi yn "hollol brydferth".

Heidiodd miloedd o bobl i Balas Buckingham nos Lun, gyda nifer am geisio cael cip ar yr hysbysiad swyddogol yn cyhoeddi genedigaeth bachgen am 16:24, yn pwyso wyth pwys a chwe owns.

Dywedodd y Tywysog William na allai'r cwpwl fod yn hapusach.

Arhosodd dros nos yn yr ysbyty gyda'i wraig a'i fab.

Tony AppletonFfynhonnell y llun, Empics
Disgrifiad o’r llun,

Crïwr y dref Tony Appleton yn cyhoeddi'r newyddion tu allan i'r ysbyty

Yn ôl y datganiad gan Balas Kensington, roedd Dug Caergrawnt yn bresennol ar gyfer yr enedigaeth.

"Mae'r Frenhines, Dug Caeredin, Tywysog Cymru, Duges Cernyw, Tywysog Harry ac aelodau o'r ddau deulu wedi cael gwybod ac wrth eu bodd gyda'r newyddion," dywedodd.

Meddai Tywysog Cymru mewn datganiad ei fod ef a'i wraig hefyd "wrth eu boddau" efo'r newyddion.

"Mae'n foment arbennig iawn i William a Catherine ac fe rydym ni yn falch iawn drostyn nhw a'i bachgen bach," meddai'r Tywysog Charles.

"Mae cael bod yn daid yn foment arbennig ym mywyd unrhywun fel mae llawer o bobl wedi dweud wrtha i dros y misoedd diwethaf felly rwy'n ofnadwy o falch a hapus i fod yn daid am y tro cyntaf ac rydym yn edrych ymlaen yn awyddus i weld y babi yn y dyfodol agos."

Teyrnged

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones hefyd wedi bod yn talu teyrnged i'r cwpl brenhinol.

"Ar ran pobl Cymru, hoffwn longyfarch Dug a Duges Caergrawnt ar enedigaeth eu mab," meddai.

"Mae gan y cwpwl eisoes gysylltiadau cryf â Chymru, gan ddewis Ynys Môn fel lle i fyw ar ddechrau eu bywyd priodasol, a bydd croeso cynnes iawn iddyn nhw yma fel teulu bob amser.

"Dymuniadau gorau i'r Dug a'r Dduges wrth iddyn nhw gychwyn ar eu rôl fel rhieni."

David Cameron
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Cameron yn dweud ei bod hi wedi bod yn gyfnod da i'r frenhiniaeth

Fe wnaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig David Cameron hefyd ddweud ei fod yn falch dros y cwpwl.

Yn siarad gyda'r wasg, dywedodd: "Bydd pobl yn dathlu ac yn dymuno'n dda i'r cwbl dros hyd a lled y Gymanwlad.

"Mae wedi bod yn flynyddoedd rhyfeddol i'r teulu brenhinol rhwng y briodas wnaeth gipio calonnau, y jiwbilî odidog a rŵan genedigaeth i deulu brenhinol sydd wedi gwasanaethu'r wlad yn wych."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones ei fod yn hapus iawn o glywed y newyddion.

"Mae hwn yn ddigwyddiad llawen ac roeddwn i wrth fy modd i glywed am enedigaeth lwyddiannus tywysog diweddaraf y wlad.

"Mae Dug a Duges Caergrawnt eisoes yn Gymry anrhydeddus gan iddyn nhw fyw ar Ynys Môn am gyn hired ac rwy'n gwybod bydd Cymru gyfan yn ymuno gyda mi wrth ddymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y cyfnod diweddaraf o'u bywyd gyda'i gilydd."