Ffrae dros bolisi hybu bwyd

  • Cyhoeddwyd
Sioe Frenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd polisi bwyd y Ceidwadwyr ei lansio ar faes y Sioe Frenhinol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o erfyn arnyn nhw i gefnogi un o'u polisïau eu hunain.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr lansio eu gweledigaeth ar gyfer bwyd yng Nghymru ar faes y Sioe Frenhinol heddiw gan ddefnyddio menter yn Nhrefaldwyn fel enghraifft o'r hyn maent eisiau ei gyflawni.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw eisoes yn cyllido'r fenter honno yn ogystal â rhai eraill.

Dywedodd ffynhonnell o fewn y blaid Geidwadol eu bod yn hapus i gefnogi ymarfer da.

Polisi

Fe wnaeth y Ceidwadwyr lansio'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel polisi newydd, sy'n cael ei alw yn Trefi Blasu Cymru, ar faes y Sioe Frenhinol heddiw.

Maen nhw'n disgrifio'r polisi fel eu "gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer cynnyrch Cymreig sydd wedi ei lunio i hybu cynnyrch lleol, cefnogi twristiaeth bwyd ac annog pobl i fwyta bwydydd sydd yn eu tymor".

Fel esiampl o'r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni maen nhw'n cyfeirio at fenter sydd eisoes yn weithredol yn Sir Fynwy o'r enw Taste Montgomery, dolen allanol.

Yn siarad cyn lansio'r polisi dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Antoinette Sandbach: "Gallai Trefi Blasu Cymru fod yn chwyldro ar gyfer ein diwydiant bwyd ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymuno â'r fenter."

'Anhygoel'

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw eisoes yn cefnogi mentrau o'r fath - gan gynnwys yr un yn Sir Fynwy.

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth Cymru: "Mae hwn yn lefel newydd o anallu gan y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'n anhygoel eu bod nhw wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi menter rydym eisoes yn ei gefnogi...

"Gallai'r Ceidwadwyr Cymreig fod wedi arbed eu hunain o'r cam gwag cywilyddus hwn yn y Sioe Frenhinol drwy wneud gwaith ymchwil gweddol sylfaenol.

"Os fydden nhw wedi edrych ar y ffeithiau cyn gyrru'r datganiad bydden nhw wedi darganfod ein bod ni fel llywodraeth wedi bod yn cyllido Taste Montgomery ers ei sefydliad yn 2010."

Dyw'r Ceidwadwyr heb ymateb yn swyddogol ond dywedodd ffynhonnell eu bod yn hapus o dynnu sylw at ymarfer da ond bod angen i'r llywodraeth ehangu'r fenter dros Gymru gyfan.

Ond mae hyn hefyd yn rhywbeth mae'r llywodraeth eisoes yn ei wneud yn ôl eu ffynhonnell nhw: "Mae hwn [Taste Montgomery] yn rhan o'n rhaglen ehangach i hybu bwydydd Cymreig sydd eisoes yn cyllido gwyliau bwyd a mentrau twristiaeth rhanbarthol dros hyd a lled Cymru."