Lansio polisi ar faes y sioe

  • Cyhoeddwyd
Antoinette Sandbach
Disgrifiad o’r llun,

Antoinette Sandbach yw llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn lansio eu gweledigaeth ar gyfer bwyd yng Nghymru ar faes y Sioe Frenhinol heddiw.

Hybu bwyd lleol, cefnogi twristiaeth bwyd ac annog pobl i fwyta bwydydd sydd yn eu tymor sydd wrth wraidd y fenter, sy'n cael ei galw yn Trefi Blasu Cymru.

Bydd trefi yn gallu gwneud cais am arian er mwyn cymryd rhan yn y fenter, a bydd gwahanol drefi'n cael eu hannog i rannu ymarfer da gyda'i gilydd.

Llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr fydd yn lansio'r polisi ar stondin ei phlaid ar y maes ac mae'n dweud mai "bwyta'n lleol" yw ei hanfod.

'Bwyta'n lleol'

Yn siarad cyn lansio'r polisi, dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Antoinette Sandbach: "Mae hwn yn bolisi creadigol sy'n llawn manylion a'i brif bwrpas yw hybu bwyta'n lleol yn ogystal â chefnogi busnesau a thwristiaeth fwyd.

"Mae ein nod yn syml - rydym eisiau annog cymunedau i fynd ati i ffurfio trefi blasu gyda chymorth gennym ni.

"Tra bydd trefi blasu'n cael effaith bositif ar yr economi, mae hyn yn ymwneud a bwyta'n iach hefyd.

"Mae bwyta'n iach ac yn dymhorol yn helpu pobl i ddeall o le mae eu bwyd nhw'n dod - mae'n golygu gwell gwerth am arian, bwyd sy'n haws i'w gael ac yn cyfrannu tuag at fywyd iach.

"Gallai Trefi Blasu Cymru fod yn chwyldro ar gyfer ein diwydiant bwyd ac rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymuno a'r fenter."

Mae'r Ceidwadwyr yn cyfeirio at Drefaldwyn fel esiampl o 'dref flasu', dolen allanol sydd eisoes yn weithredol.

Yn ôl y blaid mae 30 aelod o'r dref yn rhan o'r fenter ac mae'n bartneriaeth sydd â strwythur ffurfiol, rhywbeth sydd wedi eu galluogi'r grŵp i dderbyn cyllid ychwanegol.

Bydd Ms Sandbach yn lansio'r polisi ar faes y sioe am 2.30pm.