Galw am adroddiad i lofruddiaeth y Tooze

  • Cyhoeddwyd
Harry a Megan Tooze
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Harry a Megan Tooze eu darganfod yn farw ar eu fferm ger Llanhari

20 mlynedd ers llofruddiaeth Harry a Megan Tooze ar eu fferm yn Llanhari ger Llantrisant, mae cyfreithiwr y dyn gafodd ei garcharu am eu lladd, ac yna ei ryddhau wedi apêl, wedi galw am gyhoeddi casgliad arolwg annibynnol.

Cafodd y cwpl eu darganfod yn farw ar y 27ain o Orffennaf 1993, wedi i'w merch Cheryl fethu a chysylltu â nhw.

Roedd Harry, 64 a Megan, 67 wedi eu saethu, a'u cyrff wedi eu gorchuddio gyda charped.

Cafwyd cariad Cheryl Tooze, Jonathan Jones yn euog o'i llofruddio yn 1995, ond flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau yn dilyn apêl.

Ers y digwyddiad mae sawl arolwg o'r achos wedi eu cynnal, ac mae cyfreithiwr Jonathan Jones, Stuart Hutton yn galw i ryddhau eu casgliadau.

Ond mae'r Athro Margaret Griffiths, cadeirydd un o'r grwpiau arolygu, wedi dweud na ddylai'r wybodaeth gael ei ryddhau, rhag ofn y byddai'n amharu ar unrhyw achos llys yn y dyfodol.

Ymchwiliad pellach

Mae'r cyfreithiwr Stuart Hutton yn anghytuno:

"Dylen nhw gael eu cyhoeddi i bobl gael gweld. Mae angen i ni wybod bod yr ymchwiliad wedi ei gynnal yn y modd cywir."

"Hoffwn i weld hynny yn cael eu cyhoeddi, ac i'r Heddlu esbonio beth sydd wedi digwydd i'r ymchwiliad, a beth aeth o'i le."

Ond nid dyma yw barn Margaret Griffiths. Dywedodd hi na chafodd adroddiad ei hysgrifennu gan y grŵp, i sicrhau nad oedd yn effeithio unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol:

"Wnaeth y Grŵp Ymgynghori Annibynnol ddim cyhoeddi adroddiad beth bynnag."

"Ond rydw i'n meddwl y byddai hi'n anodd iawn i gyhoeddi unrhyw beth nawr oherwydd ei fod yn achos o lofruddiaeth heb ei ddatrys ac mae posibilrwydd y bydd tystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg yn y dyfodol."

"Ni ddylid cyhoeddi unrhyw wybodaeth all amharu ar ymchwiliad yn y dyfodol."

Yn 2008 dywedodd Heddlu De Cymru bod yr ymchwiliad yn cael ei arafu, ond nid ei gau.

Mewn datganiad maen nhw'n dweud:

"Mae hi'n 20 mlynedd ers marwolaeth drist Harry a Megan Tooze. Rydym yn sicrhau'r cyhoedd y bydd unrhyw wybodaeth newydd sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei ymchwilio yn llawn."