Gwahardd sefydliadau adloniant rhyw yn Abertawe?

  • Cyhoeddwyd
Capel y Bedyddwyr, gyda chlb Bellissima drws nesaf
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Bellissima oedd y sefydliad olaf i dderbyn trwydded adloniant rhyw

Bydd cynghorwyr Abertawe yn pleidleisio ar bolisi fyddai'n gwahardd sefydliadau adloniant rhyw yn y sir.

Ar hyn o bryd mae pob cais yn cael ei drin yn unigol, ond nawr mae bwriad i fabwysiadu polisi lle bydd "cais am drwydded ar gyfer sefydliad o'r fath fel rheol yn cael ei wrthod."

Mae'r sefydliadau yn cynnwys llefydd sy'n caniatáu dawnsio polyn, sioeau strip a sioeau rhyw.

Fe fydd cynghorwyr hefyd yn pleidleisio ar gynnig i gyfyngu ar nifer y tafarndai yng nghanol y ddinas.

Cymeriad

Ar hyn o bryd mae yna dros 250 o sefydliadau trwyddedig sy'n gwerthu alcohol.

Ddydd Mawrth bydd cynghorwyr yn ystyried adroddiad gafodd ei lunio ar ôl cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn gynharach eleni.

Dywed yr adroddiad fod gan awdurdodau lleol yr hawl i benderfynu nifer y sefydliadau adloniant rhyw o fewn y sir.

Mae gan gynghorau yr hawl i ystyried yr effaith y byddai caniatáu sefydliad o'r fath ar gymeriad ardal.

Ond does yna ddim hawl i gynghorwyr ddod i benderfyniad ar sail barn foesol.

Dywedodd arweinydd y cyngor David Phillips nad oes gan y cyngor yr hawl i wahardd sefydliadau rhag gwneud cais am drwydded ar gyfer y lleoliadau.

"Ond fe allwn ni newid ein polisi ar drwyddedau, fel ei fod yn datgan mai'r rhif priodol ar gyfer sefydliadau o'r fath mewn rhai ardaloedd yw sero.

"Ein bwriad yw sicrhau fod canol y ddinas yn croesawu teuluoedd a hynny yn ystod y nos yn ogystal â'r dydd.

Trwydded

"Mae yna nifer cynyddol o bobl yn byw yng nghanol y ddinas ac mae yna hefyd gymunedau sydd â daliadau crefyddol cadarn."

Ar hyn o bryd does yna'r un lleoliad yn y ddinas sydd â thrwydded sy'n caniatáu adloniant rhyw.

Clwb Bellissima oedd yr olaf yn y ddinas i fod â thrwydded o'r fath.

Ond ym mis Ebrill fe fu'n rhaid i'r clwb gau.

Roedd prydles yr adeilad yn York Street yn eiddo i'r cyngor a doedd stripio ddim yn unol â thelerau'r brydles.

Cyfyngu

Roedd y clwb drws nesa i Gapel y Bedyddwyr ac roedd dros 1,000 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r sefydliad.

Dydd Mawrth bydd cynghorwyr hefyd yn penderfynu a ddylid cyfyngu nifer y lleoliadau sy'n gallu gwerthu alcohol.

Yn ôl y cynghorydd Phillips mae nifer y troseddau yng nghanol y ddinas yn parhau i gynyddu.

Pe bai'r cyngor yn cymeradwyo polisi newydd byddai'n rhaid i fusnesau ddangos i aelodau pwyllgor trwyddedu y cyngor na fydd eu cynlluniau'n cael effaith andwyol ar yr ardal.

Yn 2011/12 roedd yna 873 o droseddau wedi eu cofnodi yn Wind Street, ac o'r rhain roedd 360 yn droseddau treisgar.