Galw am hawl i ofal iechyd yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd Aelod Cynulliad, a oedd yn agos at farw'r llynedd, yn rhan o drafodaeth ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun ar ddarpariaeth Cymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd.
Fis Medi diwetha' cafodd Keith Davies AC geulad gwaed, neu glot ar yr ymenydd, ac fe gollodd y gallu i siarad Saesneg am gyfnod. Dywedodd fod rhai o'r staff oedd yn ei drin yn methu â'i ddeall yn siarad Cymraeg.
Yn sgil y profiad hwnnw, mae'r aelod Llafur dros Lanelli yn galw am ddarpariaeth well i siaradwyr Cymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd.
Mae colli ail iaith yn gallu digwydd i nifer fawr o gleifion, megis y rhai sy'n dioddef o ddementia
Mae Mr Davies yn un o'r siaradwyr mewn cyfarfod sy'n cael ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes y Brifwyl ddydd Llun.
Dywed y mudiad fod safonau iaith newydd Llywodraeth Cymru - rheoliadau a fydd gosod dyletswyddau ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - yn "cynnig cyfle euraid i'r Llywodraeth atal pobl rhag gorfod dioddef profiadau o'r fath yn y dyfodol".
Yn ei gyfweliad cynta' ers cael ei daro'n wael, dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru:
"Dwi ddim yn beirniadu'r gofal - achos oedd y gofal yn arbennig. Ond y ffaith yw - dwi ddim yn cofio hyn wrth gwrs ond wedi cael e oddi wrth y wraig, o'n i ddim yn cofio pethe - ond mae'n debyg o'n i'n mynd 'nôl i'n hiaith gynta' i, mynd 'nôl i'r Gymraeg, ac wedyn oedd ambell un yno ddim yn gwybod beth o'n i'n ddweud.
Deddf newydd
Dywedodd y gallai hyn fod wedi bod yn beryglus iawn.
"'Se ni 'di cael rhyw boen ychwanegol a bod fi'n sôn amdano fe a nhw ddim yn deall...Mae'n bwysig iawn i bob gwasanaeth iechyd gael pobl sy'n siarad Cymraeg er mwyn edrych ar ôl y bobl sy'n diodde'.
Pan ofynwyd iddo a oedd strategaeth Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth Cymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd yn methu, dywedodd:
"Mae Gwenda Thomas, y dirprwy weinidog, wedi dweud dros y misoedd diwetha' - achos mae deddf newydd yn dod mewn - ac roedd hi'n sôn bod e'n bwysig bod pobl hen...mae'r henoed nawr, mae mwy a mwy yn mynd i gael dementia a mynd yn ôl i'w hiaith wreiddiol, ac mae Gwenda wedi dweud yn gyhoeddus bod yn rhaid i ni sicrhau bod nhw'n cael y gofal iawn ac mae hynny'n meddwl bod nhw'n cael gofal trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae deddfu'n bwysig ac mae deddfu'n cymryd amser. Os y'n ni'n sicrhau beth mae Gwenda'n ddweud, fydda' i'n hapus iawn."
Yn y digwyddiad ar y Maes ddydd Llun, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio addewid i sefydliadau ac eraill eu llofnodi yn datgan eu cefnogaeth dros sefydlu tair hawl sylfaenol yn y rheoliadau newydd - yr hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, yr hawl i weithio yn Gymraeg a'r hawl i chwarae yn Gymraeg.
Yn ôl Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae stori Keith Davies yn llawer iawn yn rhy gyfarwydd i bobl ar hyd a lled Cymru. Ddylai'r math yma o beth ddim digwydd yng Nghymru. Heb sôn am dramgwyddo hawliau iaith pobl, dydy'r driniaeth iechyd ddim yn iawn chwaith. Mae'n warth.
"Rydan ni'n falch iawn bod e'n fodlon siarad ar goedd ynglŷn â'r materion personol yma, er mwyn i bobl sylweddoli pa mor ddrwg ydy'r problemau."