Plaid Cymru yn ennill Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap Iorwerth gyda ei deulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Rhun ap Iorwerth dyngu llw yn y Senedd ddydd Gwener

Mae Plaid Cymru wedi ad-ennill sedd Ynys Môn mewn is-etholiad i'r Cynulliad.

Enillodd cyn-newyddiadurwr BBC Cymru Rhun ap Iorwerth fwyafrif o fwy na 42% neu 9166 o bleidleisiau.

Daeth Llafur yn ail er gwaethaf ymdrechion gorau UKIP ddaeth o fewn ychydig gannoedd o bleidleisiau i'w curo gan sicrhau ei chanlyniad gorau erioed i'r Cynulliad.

Collodd y Ceidwadwyr dros 20% o'i phleidlais, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod yn olaf tu ôl i'r Blaid Lafur Sosialaidd.

Cynhaliwyd yr is-etholiad yn sgil penderfyniad Ieuan Wyn Jones i ymddiswyddo er mwyn rhedeg Parc Gwyddoniaeth Menai.

Wedi'r canlyniad dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Dw i wrth fy modd fod pobl Ynys Môn wedi rhoi eu ffydd ynof i yw cynrychioli nhw yn y Cynulliad.

"Mae'r gwaith caled yn dechrau heddiw. Dw i'n angerddol am adeiladau dyfodol disglair i bobl yr ynys, lle cefais i fy magu a lle rydw i yn magu fy nheulu.

"Dw i'n ymrwymedig i fod yn llais cryf lleol ar gyfer pobl Ynys Môn."

Ychwanegodd y bydd yn defnyddio bob cyfle i geisio hybu'r economi a chreu gwaith ar yr ynys a'i fod am sicrhau y bydd Plaid Cymru yn dod y blaid fwyaf yng Nghymru.