Gemau'r Gymanwlad: Cyhoeddi'r daith

  • Cyhoeddwyd
baton
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y baton ym ymweld ag 71 o wledydd yn y saith mis cyn y gemau

Mae'r daith fydd baton y Frenhines yn ei gymryd yng Nghymru ar ei ffordd i Gemau'r Gymanwlad yng Nglasgow yn 2014 wedi cael ei gyhoeddi.

Bydd yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd ar ddydd Sadwrn 24 Mai, cyn ymweld â gwahanol ddigwyddiadau mewn saith sir wahanol dros gyfnod o wythnos.

Y siroedd yw Blaenau Gwent, Rhondda, Sir Ddinbych, Sir Gar, Sir Fôn, Gwynedd a Sir Benfro.

Mae trefnwyr yn gobeithio y bydd torfeydd fel y rhai aeth i weld y fflam Olympaidd yn heidio i weld y baton wrth iddo deithio o le i le.

Taith

Dywedodd Chris Jenkins, prif weithredwr Cyngor Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, fod taith y baton yn bwysig er mwyn rhoi cyfle i bobl ddangos cefnogaeth i athletwyr Cymreig.

"Fe welon ni'r nifer anhygoel o bobl yn rhoi cefnogaeth i fflam Llundain 2012 wrth iddo wneud ei ffordd drwy Gymru cyn y Gemau Olympaidd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gefnogaeth Gymreig i'n hathletwyr yn nigwyddiadau baton y Frenhines y flwyddyn nesaf," meddai.

Baton Gemau'r Gymanwlad
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y baton yn ymweld â 71 o wledydd dros y byd.

"Rydym yn wlad chwaraeon mor angerddol a balch a bydd y saith diwrnod dros yr haf flwyddyn nesaf, fydd ond dau fis cyn Gemau'r Gymanwlad, yn rhoi cyfle i ni drafeilio ledled Cymru yn siarad gyda chymunedau, adeiladu brwdfrydedd am y gemau a chefnogaeth i'r tîm ar y ffordd.

"Gemau'r Gymanwlad yw'r unig gyfle sydd gan Gymru i gystadlu fel gwlad, yr unig gyfle mae ei hathletwyr yn gael i wisgo crys Cymreig a mae hynny'n golygu llawer i ni fel gwlad."

Eisteddfod

Bydd y baton ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn y Bala ar Fai 26, sy'n ŵyl y banc, a bydd yn gorffen yn Sir Ddinbych ar 30 Mai.

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant John Griffiths: "Rydym yn genedl sydd yn falch iawn o'n llwyddiannau chwaraeon ac mae Gemau'r Gymanwlad yn ddigwyddiad pwysig iawn sy'n denu diddordeb ledled y byd."

"Rwy'n edrych ymlaen at weld baton y Frenhines yn teithio drwy Gymru - bydd hynny'n cynnwys llawer o'n cymunedau lleol.

"Rwy'n siŵr y bydd y digwyddiad yn creu llawer iawn o gefnogaeth a chyffro ac y bydd yn helpu pobl ifanc yn benodol i ddeall y gall chwaraeon gynnig cymaint o fudd iddynt."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol