'Hawliau clir' i siaradwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae galw am ehangu hawliau siaradwyr Cymraeg o fewn gofal iechyd, y gweithle ac amser hamdden wrth i Gymdeithas yr Iaith lansio addewid ieithyddol ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun.
Maen nhw eisiau i sefydliadau o bob math arwyddo'r addewid, gan gefnogi hawliau ieithyddol yn y tri maes.
Yn ôl y gymdeithas, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn wynebu ei "brawf cyntaf" yn sgil ei gyfrifoldeb newydd dros y Gymraeg wrth iddo benderfynu ar y safonau iaith newydd.
Dywedodd y mudiad iaith y dylai safonau iaith newydd Llywodraeth Cymru - fydd yn rhoi dyletswydd ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - greu'r hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, yr hawl i weithio yn Gymraeg a'r hawl i chwarae yn Gymraeg.
Colli'r gallu
Mewn trafodaeth gyda siaradwyr y pedair prif blaid mae'r Aelod Cynulliad Llafur, Keith Davies, yn sôn am yr adeg y cafodd ei daro'n wael fis Medi'r llynedd, gan golli'r gallu i siarad Saesneg.
'Doedd neb ar gael yn yr ysbyty i siarad ag o yn y Gymraeg ar y pryd, a dywedodd y gallai fod wedi bod yn sefyllfa "beryglus iawn".
Mae'r Aelodau Cynulliad Elin Jones ac Aled Roberts ynghyd â'r Cynghorydd Aled Davies yn rhan o'r drafodaeth ddydd Llun.
'Prawf cyntaf'
Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau'r Gymdeithas a fydd yn cadeirio'r cyfarfod:
"Ry'n ni wedi clywed digon o siarad gan y Prif Weinidog am ei ymrwymiad i'r Gymraeg - mae'n hen bryd iddo gyflawni. Dyma yw ei brawf cyntaf ynglŷn â'r hyn mae'n mynd i'w wneud dros y Gymraeg.
"Mae gyda fe benderfyniad i'w wneud a allai warantu gwell defnydd o'r Gymraeg ar hyd a lled y wlad.
"Mae'r cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau - ac mi fyddwn ni'n ei ddal e i gyfrif. Yn ei ddwylo mae un o'r penderfyniadau pwysicaf - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy.
"Rydyn ni'n gofyn am hawliau clir i bobl, ar lawr gwlad, i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae angen yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.
"Gallai safonau o'r fath helpu'r llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion ei strategaeth iaith.
"Felly, does dim esgus na rheswm gan Carwyn Jones ond rhoi'r hawliau hynny yn y safonau. Mae siarad yn hawdd, y gwneud sy'n gofyn am arweiniad go iawn."
'Profiad personol'
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod cynrychiolaeth o'r pedair plaid yn y cyfarfod heddiw. A gobeithio y daw consensws traws-bleidiol dros hawliau clir yn y safonau iaith newydd."
Yn ôl Keith Davies, AC Llanelli: "Rwy'n ymwybodol iawn o fy mhrofiad personol i a'r teulu o'r drafferth wrth drio cael triniaeth yn Gymraeg.
'Neb yn deall'
"Amser o'n i yn yr ysbyty golles i'r gallu i siarad Saesneg. Heddyr, fy ngwraig, oedd yn gweud y stori wrtha i gan bo' fi ddim mewn cyflwr i gofio.
"Doedd neb 'na yn deall beth o'n i'n gweud gan taw dim ond Cymraeg o'n i'n siarad.
"Mae'n bwysig bod staff yn y Gwasanaeth Iechyd yn siarad gyda chleifion yn Gymraeg. Mae Gwenda [Thomas, y Dirprwy Weinidog Iechyd] wedi gweud yn y Cynulliad bod angen gwella hyn - a gobeithio bydd y safonau iaith yn ffordd o sicrhau bod barn Gwenda yn cael ei ffordd o ran gwella'r ddarpariaeth."