Faletau yn aros gyda'r Dreigiau
- Cyhoeddwyd
Mae rhif wyth Cymru Toby Faletau wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Dreigiau Gwent, fydd yn ei gadw yno tan Fehefin 2016.
Bydd rygbi yng Nghymru'n siŵr o elwa o benderfyniad Faletau, yn enwedig gan ystyried fod George North wedi gadael y wlad i fynd i chwarae yn Lloegr i Northampton.
Dywedodd Faletau: "Rwy'n falch o fod wedi ymrwymo i'r Dreigiau mor gynnar yn y tymor.
"Bydd hyn yn fy nghaniatáu i ganolbwyntio ar fy mherfformiad ar y cae a'r heriau sy'n fy wynebu'r tymor hwn.
"Mae enw da Lyn Jones [hyfforddwr y Dreigiau] a Kingsley Jones [hyfforddwr cynorthwyol] eisoes yn adnabyddus, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw a datblygu'n bellach fel chwaraewr.
"Mae'n glir fod y Dreigiau yn cymryd camau i ddatblygu'r rhanbarth a'r tîm gyda nifer o bobl newydd yn ymuno â'r clwb, ar y cae ac oddi ar y cae."
Roedd cytundeb Faletau, 22, yn fod i ddod i ben ar ddiwedd tymor 2013-14.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013