Clwb golff Aberteifi'n anhapus â chynllun tyrbin gwynt
- Cyhoeddwyd
Mae golffwyr yn Aberteifi yn ofni y gallai datblygiad arfaethedig tyrbin gwynt beryglu dyfodol eu clwb.
Mae'r fenter ynni gymunedol Awel Deg yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer un tyrbin 67 metr o uchder ar dir ar fferm Bryn - rai cannoedd o lathenni o gwrs Clwb Golff Aberteifi yng Ngwbert.
Maen nhw'n dweud y gallai'r tyrbin ddarparu pŵer ar gyfer 300 o dai a chreu incwm a fyddai'n gallu cael ei roi tuag at gynlluniau ynni adnewyddadwy yn yr ardal.
Clywodd y cant o bobl a fynychodd gyfarfod cyhoeddus tanllyd yng Nghlwb Golff Aberteifi nos Lun bryderon y gallai'r tyrbin beryglu gallu'r clwb i ddenu digwyddiadau fel Pencampwriaeth Timau Merched Cymru a gynhaliwyd yno ym mis Mehefin.
Dywed y clwb bod y digwyddiad wedi cyfrannu £100,000 i'r economi leol. Mae yna bryder y gallai cysgodion yn symud a sŵn y tyrbin effeithio ar y golffwyr.
Dywedodd Lyndsay Morgan, aelod o bwyllgor gweithredol y clwb:
"Prif atyniad y clwb yw'r golygfeydd... ond allan o gornel y llygad - bydd 'da chi dyrbin gwynt enfawr yn troi... alla i ddim gweld y bydd yn ddim byd ond andwyol i'r profiad golffio."
Dywedodd David Gillam, cadeirydd Awel Deg, eu bod yn cymryd y pryderon o ddifri':
"Fel grŵp byddwn ni'n cwrdd, ystyried a thrafod y pryderon hynny ac fe ddown ni nôl a thrafod mwy.
"Fy nghred i yw bod rhaid i ni drafod y pethau hyn, ac mae'n rhaid i ni geisio cyrraedd consensws a chyfaddawd a chytundeb ac os oes yna ddigon o bobl o blaid rydyn ni'n symud 'mlaen, ac os oes yna ddigon o bobl yn erbyn, dy' ni ddim."
"Mae yna emosiynau cryfion o gwmpas tyrbinau gwynt. Mae yna rai pobl sy'n gryf yn erbyn ac fe fyddan nhw byth.. ond mae yna eraill sy'n credu mai dyma ynni'r dyfodol, ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi ynddo fe ac fe ddaw a buddiannau mawr i Aberteifi... ac mae'n rhaid i ni gydbwyso'r safbwyntiau gwahanol yna."