Edrych ymlaen at Eisteddfod 2014

  • Cyhoeddwyd
h
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen Huws Elis yn edrych ymlaen at y gwaith

Elen Huws Elis yw trefnydd newydd yr eisteddfod ac mae'n edrych ymlaen at geisio sicrhau y bydd Prifwyl Llanelli mor llwyddiannus ag un Sir Ddinbych.

Dywedodd fod ganddi "esgidiau mawr i'w llenwi" wrth gymryd yr awenau.

"Mae gen i bedwar mis efo Hywel rŵan yn Yr Wyddgrug tan y Nadolig a dwi'n siŵr y gwneith o roi dosbarth meistr i fi ... ac mae gen i lot i ddysgu.

"Mae o'n awdurdodol iawn. 'Dwi wedi arfer gorfod deud wrth bobl be' i wneud a lle i fynd felly mae hynny'n rhywbeth dwi wedi wneud yn barod.

'Gwên ar ei wyneb'

"Ond eto mae'r ŵyl yma'n llawer mwy na be' 'dwi i wedi 'i drefnu yn y gorffennol ond eto'i gyd ma' Hywel yn dal i fod efo gwên ar ei wyneb o hyd.

"Mae o'n gallu gweiddi ar rywun ond mae'r wên yna hefyd yn dweud 'Oce, 'na'i neud hefyd'.

"Os ti ddim yn awdurdodol, fedri di ddim trefnu cymaint o bobl ...

"O fis Ionawr ymlaen fe fydda i ar ben fy hun."

Ond nid yn llwyr chwaith gan fod cannoedd o wirfoloddwyr a staff yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn gwneud yn siŵr fod y Brifwyl yn llwyddiannus.

'Gweithio'n wych'

Dywedodd mai un o elfennau pwysicaf y swydd oedd dod i adnabod pobl.

"'Dwi wedi bod yn ceisio dod i nabod pobl, gweithwyr, pobl sydd ar y stondinau a phobl sy'n dod 'nôl yn aml, jest rhoi gwyneb i'r enw ac i'r gwaith, pobl ar y stondinau, y bobl dechnegol, bois sain, y BBC , maen nhw hyd bob man.

"Un person dwi i yn lle Hywel a be' sy'n wych ydy bod tîm anferth o wirfoddolwyr a'r rheiny sy'n gweithio yma bob blwyddyn, sy'n rhoi hyder i mi fy mod i'n dod i fewn i rywbeth sy'n gweithio'n wych yn barod."

Mae'r gwaith caled wedi dechrau a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith Gethin Thomas yn ffyddiog y bydd y targed ariannol yn cael ei gyrraedd mewn da bryd.

Fo yw Prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Dewi Sant.

Gethin Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Thomas, mae'r gwaith trefnu'n mynd yn hwylus

'Hanner ffordd'

Dywedodd iddyn nhw gael targed o £320,000 a bod pump o bwyllgorau apêl yn y sir.

"Mae'n braf cyhoeddi bod y gronfa leol wedi cyrraedd £130,000 mewn cwta saith mis gyda £20,000 arall ar y ffordd oddi wrth Gyngor Tref Llanelli a'r cyngor sir.

"Felly o ran y targed ry'n ni o gwmpas hanner ffordd."

Dechreuodd y bwrlwm yn Sir Gâr ym mis Tachwedd 2012, meddai, pan gafwyd y cyfarfod cyntaf i wahodd yr Eisteddfod ac ers hynny maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed yn codi ymwybyddiaeth.

"Ar Sadwrn olaf Mehefin fe gafon ni seremoni gyhoeddi lwyddiannus iawn yn nhref Caerfyrddin.

"Mae nifer o drefi gyda ni yn y sir ac ry'n ni wedi penderfynu mai Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yw hon felly mae pawb yn teimlo'n rhan ohoni.

"Yn Llanelli bydd yr Eisteddfod. Ry'n ni wedi bod yn brysur iawn yn cynllunio Rhaglen yr Wythnos a'r Rhestr Testunau ac ry'n ni'n gwahodd pawb i ddod i gystadlu ac yn gobeithio y byddwn ni'n cael yr un faint o frwdfrydedd â Dinbych."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol