'Cadair wag yr unig gysgod' yn Eisteddfod Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Dinbych wedi dod i ben wedi i 153,606 ymweld ers Awst 2.
Dydd Gwener oedd y diwrnod prysuraf a'r trefnwyr yn credu mai'r ffigwr o 28,237 oedd yr uchaf mewn unrhyw Eisteddfod erioed.
Bu teilyngdod ym mhob un o'r prif seremonïau heblaw am y Gadair.
Dywedodd y beirniaid nad oedd "digon o chwysu" dros y cerddi ond roedden nhw'n galonogol bod dau o'r ymgeiswyr yn meddu ar ddawn i'w hennill yn y dyfodol, gydag amryw o'r lleill ddim yn rhy bell i ffwrdd.
Cydbwyso
Bardd y Goron oedd Ifor ap Glyn o Gaernarfon a hynny am yr ail dro.
Roedd ei gerddi yn dywyll ond roedd y "gwreiddioldeb, dychan a hiwmor" yn cydbwyso hynny.
Bet Jones enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am nofel, Craciau, oedd yn adrodd hanes daeargryn yn dinistrio tref Llangefni wedi i gwmnïau ffracio ar Ynys Môn.
Roedd hi'n "nofel hyderus, ddifyr ac amserol," yn ôl y beirniad Geraint Vaughan Jones.
Dyfarnwyd y Fedal Ryddiaith i Jane Jones Owen am ei chyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Cwlwm.
Cyfaddawdu
Mrs Jones oedd "ysgrifennwr mwyaf dyfynadwy'r gystadleuaeth," yn ôl Menna Baines ddywedodd ei bod hi a'i chyd-feirniaid wedi gorfod cyfaddawdu wrth ddewis enillydd gan fod gwaith tri ymgeisydd arall hefyd wedi apelio.
Merch leol ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama - Glesni Haf Jones yn wreiddiol o'r Wyddgrug ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Roedd ei gwaith, gafodd ei ysbrydoli gan y crogwr enwog Albert Pierrepoint, yn adrodd hanes Tryweryn a merch ifanc ar fin priodi gŵr oedd dipyn yn hŷn na hi oedd yn arfer bod yn gariad i'w mam.
Wrth gloi'r wythnos, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts: "Mae wedi bod yn wythnos lwyddiannus i'r Eisteddfod yma yn Sir Ddinbych a'r Cyffiniau eleni. Mae popeth wedi gweithio'n hwylus, ac mae'r croeso a'r cydweithrediad gan drigolion lleol a'r cyngor wedi bod yn arbennig iawn."