Gêm Cymru: Bale 'ddim yn chwarae'

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Gareth Bale wedi gwella mewn pryd i chwarae nos Fercher

Mae hyfforddwr cynorthwyol tîm pêl-droed Cymru, Kit Symons, wedi cadarnhau na fydd Gareth Bale yn chwarae i'w wlad yn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Fercher.

Roedd Bale wedi ymuno â'r garfan ar gyfer sesiwn ymarfer yng Nghasnewydd ddydd Llun ynghanol sibrydion y bydd yn gadael ei glwb Tottenham Hotspur.

Nid yw wedi chwarae i Spurs ers mis oherwydd anaf i'w droed, ac fe gadarnhaodd Symons bod nos Fercher yn rhy fuan iddo wella'n llwyr o'r anaf.

Mae rheolwr Real Madrid, Carlo Ancelotti, wedi dweud y byddai'n hoffi arwyddo ymosodwr Cymru am ffi fyddai'n record byd, ond nid Real yw'r unig glwb sydd wedi dangos diddordeb yn Bale.

Yn gynharach roedd dirprwy reolwr Iwerddon, Marco Tardelli, wedi dweud ei fod yn disgwyl i Bale chwarae gan y byddai'n colli parch ei gyd-chwaraewyr pe na bai'n gwneud hynny.

Ond mae datganiad Symons yn egluro mai am resymau meddygol y bydd Bale yn absennol, ac nad oes gan unrhyw drosglwyddiad posib ddylanwad ar y penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Tottenham Hotspur eu bod yn hapus i Bale ymuno gyda charfan Cymru ddydd Llun, ac i fod yn rhan o sesiwn ymarfer ysgafn.

Mae'r newyddion yn ergyd arall i'r rheolwr Chris Coleman wedi i chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey, ac amddiffynnwr West Ham, James Collins, dynnu nôl o'r garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Mae Ramsey wedi anafu ei bigwrn ac mae Collins wedi anafu ei ben-glin.

Mae Andrew Crofts a Jazz Richards wedi eu cynnwys yn y garfan yn eu lle.