Bale yng ngharfan bêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae asgellwr Tottenham, Gareth Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Awst 14.
Bu cryn sôn yn ddiweddar y gallai symud i Real Madrid, ond mae disgwyl iddo chwarae dros Gymru beth bynnag yw ei sefyllfa o ran ei glwb.
Mae ymosodwr Caerdydd, Craig Bellamy, 34 oed, hefyd yn y garfan, fel y mae golwr Wolves, Wayne Hennessey a fu allan o'r gamp am 16 mis gydag anaf.
Hefyd yn y garfan y mae Ashley Williams, Neil Taylor a Ben Davies o Abertawe, chwaraewr canol cae Lerpwl Joe Allen, Aaron Ramsey o Arsenal a Joe Ledley o Celtic.
Carfan Cymru:
Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), James Collins (West Ham United), Danny Gabbidon (Crystal Palace), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Wolverhampton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Charlton Athletic), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013