Un o bob pump yn ofni diweithdra

  • Cyhoeddwyd
canolfan waith
Disgrifiad o’r llun,

Dangosodd yr ymchwil bod un o bob tri sydd yn methu arholiadau yn teimlo y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd cael gwaith

Mae un o bob pum person ifanc yng Nghymru yn ofni y byddan nhw ar fudd-daliadau yn y dyfodol, yn ôl ymchwil gan un elusen ieuenctid.

Roedd y nifer yna'n cynyddu i un o bob tri ymhlith y rhai sy'n cael canlyniadau TGAU gwael.

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog, a wnaeth y gwaith ymchwil, yn galw am fwy o gefnogaeth i'r rhai sy'n gadael yr ysgol gydag ychydig o gymwysterau.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn clustnodi £40 miliwn yn ychwanegol ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol a hyfforddiant yn y gweithle dros y ddwy flynedd nesaf.

Y llynedd, ni lwyddodd 49% i gael gradd A* i C mewn Saesneg na Chymraeg fel iaith gyntaf, na Mathemateg.

'Chwalu uchelgais'

Dywedodd Lesley Kirkpatrick, cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghymru: "Mae uchelgais miloedd o bobl ifanc yn cael eu chwalu gan ganlyniadau arholiadau bob blwyddyn.

"Mae'r rhai sydd â llai na phump TGAU bron ddwywaith yn fwy tebygol o gredu na fyddan nhw'n llwyddo i gyflawni unrhyw beth.

"Mae llawer o'r bobl ifanc yma wedi wynebu problemau yn y cartref neu fwlio yn yr ysgol, felly dyw canlyniadau arholiadau ddim yn adlewyrchu eu gwir botensial.

"Rhaid i ni wneud mwy i gefnogi'r rhai sydd ddim yn llwyddo'n academaidd, gan eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau galwedigaethol. Rhaid i lywodraeth, cyflogwyr ac elusennau gydweithio i gael swyddi iddyn nhw.

"Mae angen dangos i'r bobl ifanc yma yng Nghymru y gallan nhw lwyddo, hyd yn oed heb gael pump TGAU da."

Roedd yr ymchwil yn seiliedig ar gyfweliadau gyda 2,342 o bob rhwng 16-25 oed, ac ymhlith y canlyniadau eraill mae'r arolwg yn dangos bod:

  • Un o bob tri (36%) sy'n methu arholiadau yn credu y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd cael swydd yn y dyfodol;

  • Un o bob deg (13%) yn credu y bydd eu canlyniadau arholiad yn eu dal yn ôl am byth;

  • Dros chwarter (27%) yn cyfadde' y byddan nhw'n teimlo'n israddol i'r rhai a wnaeth yn well yn yr ysgol.

Arian ychwanegol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym am sicrhau bod y bobl ifanc yma'n cael mynediad at addysg o safon uchel a chyfleoedd hyfforddiant er mwyn gwireddu eu potensial, boed hynny ar lwybr galwedigaethol neu academaidd.

"Dyna pam yr ydym yn buddsoddi'n helaeth mewn rhaglenni hyfforddiant yn y gweithle a phrentisiaethau, gan glustnodi £40 miliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.

"Mae hynny'n cynnwys ein Rhaglen Recriwtiaid Ifanc sy'n cynnig cymhorthdal cyflog oddi wrth gyflogwyr sy'n fodlon rhoi swydd o brentis i bobl 16-24 oed. Mae hynny'n golygu y gall y person ifanc ennill cyflog tra'n dysgu, ac yn ystod 2011/12 fe wnaeth 85% gwblhau'r rhaglen.

"Hefyd mae ein rhaglen Twf Swyddi Cymru wedi creu 7,876 o gyfleoedd swyddi hyd yma, gyda 5,731 o bobl ifanc yn llenwi'r swyddi yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol