Tywysog William yn diolch i bobl Môn
- Cyhoeddwyd
Mae Dug Caergrawnt wedi bod yn siarad am yr her o fod yn dad yn ystod ymweliad â Sioe Amaethyddol Ynys Môn ddydd Mercher.
Dywedodd y Tywysog William bod yr ynys wedi bod yn "lle arbennig" yn ystod ei gyfnod o weithio yno fel peilot gyda'r Awyrlu yn Y Fali.
Hwn oedd yr ail ddyletswydd gyhoeddus i'r tywysog ers genedigaeth ei fab dair wythnos yn ôl.
Araith Gymraeg
Daeth bonllefau o gymeradwyaeth gan y miloedd oedd yn bresennol pan ddechreuodd y Tywysog William ei araith yn Gymraeg.
Dywedodd: "Diolch Fonwysion - mae'n bleser mawr bod yma.
"Rwyf mor falch o fod wedi byw ar Ynys Môn ac rwyf hyd yn oed wedi dysgu tipyn o Gymraeg!"
Wrth siarad am fod yn dad am y tro cyntaf, ychwanegodd (yn Saesneg): "Roeddwn i'n meddwl bod dyletswyddau peilot achub yn galed yn gorfforol ac yn feddyliol, ond mae gofalu am fabi tair wythnos oed cynddrwg.
"Byddai fy ngwraig a George wedi bod wrth eu bodd yn dod yma. Mae e'n swnllyd iawn ac yn hardd iawn wrth gwrs!
"Rwy'n gwybod fy mod yn siarad ar ran Catherine wrth ddweud nad wyf erioed wedi nabod lle mor brydferth a chroesawgar ag Ynys Môn. Fe fyddwn yn teimlo colled fawr pan ddaw fy ngwaith yma i ben ddiwedd y mis wrth i ni symud i rywle arall.
"O waelod calon, diolch am y croeso gafodd fy ngwraig a minnau yma. Dyma oedd ein cartref cyntaf gyda'n gilydd, ac fe fydd yn lle arbennig iawn i ni'n dau am byth."
Fel rhan o'r ymweliad fe gafodd rhodd o faneg hebogyddiaeth gan Sophie Large, 11 oed o Wrecsam, sy'n ferch i'r hebogwr Terry Large, ac fe gafodd gymorth ganddi i fod yn rhan o arddangosfa hebogyddiaeth.
Bu'r tywysog hefyd yn cwrdd ag aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc yr ynys, ac yn sgwrsio gyda nifer o ymwelwyr i'r sioe a'r beirniaid.
Y disgwyl yw y bydd yr ymweliad yn nodi diwedd cyfnod y Tywysog William ar Ynys Môn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2013