Ymchwiliad i safon gofal yn Ysbyty Glannau Dyfrdwy

  • Cyhoeddwyd
NyrsFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu, y bwrdd iechyd a'r Arolygiaeth Gofal Iechyd sy'n ymchwilio

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn sgil pryderon am safon gofal nyrsio yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint.

Chafodd neb ei wahardd o'r gwaith ond, yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae nifer fechan o weithwyr wedi ei hatal rhag gofalu am gleifion.

Yr heddlu, y bwrdd iechyd a'r Arolygiaeth Gofal Iechyd sy'n ymchwilio.

Mae yna bryderon ynghylch gofal y cleifion ac os ydyn nhw yn cael eu trin gyda pharch.

Adroddiadau beirniadol

Daw'r newyddion yn dilyn adroddiadau beirniadol diweddar ynghylch y bwrdd iechyd lleol.

Ddydd Mawrth fe ymddiheurodd Betsi Cadwaladr yn dilyn adroddiad a oedd yn gweld bai ar y bwrdd am y ffordd y gwnaethon nhw ymateb i'r afiechyd C. difficile yn Ysbyty Glan Clwyd rhwng Ionawr a Mai'r flwyddyn hon.

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Ombwdsman Cymru ei fod am gyfeirio ei bryderon ynghylch y bwrdd at Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Ym Mis Gorffennaf fe wnaeth adroddiad ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny o ganlyniad yn rhoi iechyd cleifion mewn perygl. Yn dilyn hyn fe ddywedodd y prif weithredwr a chadeirydd y bwrdd y bydden nhw'n ymddiswyddo unwaith byddai eraill wedi eu darganfod i wneud eu gwaith.

Mae'r ymchwiliad yma i Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy yn golygu bod mynediad i un o'r ddwy ward yn yr ysbyty ddim yn bosib ar hyn o bryd.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Mae mesurau ychwanegol wedi eu rhoi yn eu lle i gefnogi staff a'r gwasanaethau yn yr ysbyty ac i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth sydd yn cael ei rhoi i gleifion yn parhau yn uchel."

Dywedwyd hefyd y byddai heddlu'r gogledd yn arwain pe byddai yna unrhyw faterion posib o droseddu o fewn yr ysbyty.