Betsi: cyfweld ar gyfer cadeirydd

  • Cyhoeddwyd
Merfyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd yr Athro Merfyn Jones ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn gadeirydd wedi adroddiad damniol

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ddiweddarach er mwyn penodi cadeirydd newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Ddiwedd Mehefin fe ddywedodd yr Athro Merfyn Jones ei fod am gamu o'r neilltu wedi i adroddiad beirniadol o'r bwrdd gael ei gyhoeddi.

Mae wedi aros yn y rôl dros dro nes bod rhywun newydd yn cael ei bennodi.

Diffyg cydweithio

Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru wnaeth lunio'r adroddiad a'u casgliadau oedd fod y cadeirydd a'r prif weithredwr Mary Burrows yn methu cydweithio gyda'i gilydd.

Dywedodd y ddogfen fod arweinyddiaeth o fewn y bwrdd, sydd yn gwasanaethu'r chwech sir yng ngogledd Cymru wedi ei "gyfaddawdu" a bod iechyd cleifion o ganlyniad yn cael eu rhoi mewn perygl.

Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi fod gan Betsi Cadwaladr broblemau ariannol difrifol a fod chwestiynau o ran adrefnu'r bwrdd er mwyn arbed pres yn y dyfodol.

Gwadu gwrthdaro

Fe benderfynodd Ms Burrows y byddai hi hefyd yn gadael yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad ac fe dderbyniodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y llythyr o ymddiswyddiad gan y ddau ohonynt.

Wrth roi tystiolaeth o flaen Aelodau Cynulliad ym mis Gorffennaf fe wadodd Merfyn Jones mai "gwrthdaro personoliaeth" oedd wrth wraidd y ffaeleddau yn Betsi Cadwaladr.

Ond mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn casgliadau'r adroddiad a'r argymhellion ac wedi sefydlu cynllun i ddelio gyda'r problemau.

Dywedodd y gweinidog iechyd mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru fyddai diwygio strwythur y bwrdd iechyd. Roedd Mark Drakeford yn awyddus fod person newydd yn cael eu ddewis yn fuan:

"Rwyf wedi gofyn i David Sissling, Prif Weithredwr GIG Cymru, er mwyn symud ymlaen yn gyflym i benodi eu holynwyr er mwyn galluogi'r bwrdd iechyd i ddechrau pennod newydd," meddai.

Fydd y cadeirydd newydd ddim yn cael ei bennodi ddydd Iau ond disgwylir cyhoeddiad wythnos nesaf.