Miloedd yn disgwyl clywed canlyniadau TGAU
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o ddisgyblion yng Nghymru yn aros i glywed eu canlyniadau TGAU, gyda disgwyliad y bydd canlyniadau eleni yn is yn ambell i bwnc craidd.
Flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth disgyblion Cymreig leihau'r bwlch gyda gweddill y DU mewn cysylltiad â'r graddau uchaf.
Ond roedd lleihad yn nifer y graddau A* i C gafodd eu gwobrwyo am y tro cyntaf mewn mwy na degawd.
Mae disgwyl i na fydd canlyniadau mathemateg a Saesneg mor dda â rhai 2012 oherwydd newidiadau i'r ffordd mae'r profion yn cael eu gosod a'u marcio.
Dywedodd gohebydd addysg BBC Cymru Arwyn Jones fod "ymdrech i wneud y pynciau craidd yn fwy ac yn fwy anodd, nid dim ond yng Nghymru, ond yn Lloegr a gogledd Iwerddon hefyd".
Ffrae y llynedd
Bu ffrae wleidyddol yn dilyn canlyniadau'r flwyddyn ddiwethaf a ddaeth i benllanw wrth i'r gweinidog addysg ar y pryd, Leighton Andrews, orfodi CBAC i ail-raddio papurau Saesneg iaith.
Ei ddadl oedd bod y canlyniadau yn annheg i ddisgyblion oherwydd bod ffiniau'r graddau wedi cael eu newid a bod disgyblion Cymreig wedi dioddef "anghyfiawnder".
Fe wnaeth 2,400 dderbyn graddau gwell yn dilyn y penderfyniad.
Y flwyddyn hon fe wnaeth disgyblion yng Nghymru eistedd papur hollol wahanol i'w cyfoedion dros Glawdd Offa ac roeddent yn cael eu marcio mewn ffyrdd gwahanol hefyd.