Mwy o ddisgyblion 15 oed yn gwneud TGAU
- Cyhoeddwyd
Mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch y ffaith fod mwy o ddisgyblion 15 oed a dros 16 wedi sefyll arholiadau TGAU yng Nghymru eleni.
Ar gyfer TGAU Saesneg, disgyblion 15 oed oedd 7.4% o'r rheiny wnaeth sefyll yr arholiad eleni, o'i gymharu â 1.2% y llynedd.
Yn ôl CBAC mae perfformiad is y disgyblion hyn yn rhannol gyfrifol am y gwahaniaeth yn y canlyniadau eleni.
Maent yn dweud bod y nifer o ddisgyblion 15 oed neu dros 16 wnaeth sefyll TGAU Mathemateg erbyn hyn yn 10% o'r cyfanswm, a bod y disgyblion hyn yn dueddol o gael canlyniadau is na disgyblion 16 oed.
Dim ond 36.2% o ddisgyblion dros 16 wnaeth lwyddo i gael gradd C neu uwch ac mae hynny wedi cyfrannu'n sylweddol at y ffaith mai 52.8% o bawb a safodd yr arholiad a gafodd C neu radd uwch, medd CBAC.
Nid dim ond yng Nghymru y gwelwyd cynnydd yn nifer y disgyblion 15 oed a safodd arholiadau TGAU.
Dywedodd Andrew Hall o fwrdd arholi yr AQA: "Pam fod gennym ni gynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion 15 oed sydd yn sefyll yr arholiadau hyn?
"Mae hyn wir yn difrodi addysg yn y wlad hon. Mae tystiolaeth glir iawn o ddisgyblion yn eistedd arholiadau fwy nag unwaith drwy'r flwyddyn gyda rhai ohonyn nhw'n sefyll gormod o arholiadau Tgau Mathemateg."