Rhoi'r gorau iddi

  • Cyhoeddwyd
Helen Mary JonesFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Mary Jones ei bod yn bwriadu canolbwyntio ar ei gyrfa a'i theulu

Bydd Helen Mary Jones yn gadael ei swydd fel Cadeirydd Plaid Cymru yn yr Hydref.

Ni fydd y cyn Aelod Cynulliad yn ceisio am ail enwebiad ar gyfer y swydd y mae hi wedi bod ynddi ers 2011.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod Mrs Jones, Prif Weithredwr elusen Youth Cymru, wedi penderfynu na fyddai'n bosib' cwblhau gofynion ei swydd ym Mhlaid Cymru yn llawn tra'n gweithio i Youth Cymru.

Mewn e-bost i aelodau'r Blaid, dywedodd hi fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn "gyffrous iawn".

"Roeddwn i'n falch eithriadol o fod wedi chwarae fy rhan fel cadeirydd cenedlaethol wrth gefnogi pawb a weithiodd mor galed ...

"Rwyf wedi penderfynu peidio â sefyll eto pan ddaw fy amser yn y swydd i ben adeg y gynhadledd gan fod angen i mi ganolbwyntio ar fy ngyrfa a'm teulu am sbel.

'Diolch'

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth i mi fel cadeirydd, yn enwedig ein tîm staff ardderchog a'm cyd-aelodau ar y pwyllgor gwaith.

"Gwn yr aiff y Blaid o nerth i nerth dan arweiniad Leanne (Wood) ac yr wyf yn edrych ymlaen at fwy o ganlyniadau gwych mewn etholiadau yn y blynyddoedd i ddod."

Cynrychiolodd Llanelli yn y Cynulliad hyd at 2011 pan gollodd y sedd i'r aelod Llafur, Keith Davies.

Cafodd ei phenodi yn brif weithredwr elusen Youth Cymru yr un flwyddyn.