Cwest: Claf wedi rhybuddio am ddiffyg glanweithdra

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac yn Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn.

Clywodd cwest yn Llandudno fod claf wedi rhybuddio beth fyddai sgileffeithiau diffyg glanweithdra.

Bu farw Ann Gregory, 81 oed o Fae Colwyn, oherwydd yr haint Clostridium difficile.

Roedd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac yn Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro yn sgil adroddiad oedd yn beirniadu eu hymateb i gyfres o achosion yn Ysbyty Glan Clwyd rhwng Ionawr a Mai.

Dywedodd Dirprwy Grwner Gogledd Cymru Nicola Jones ei bod hi wedi dal yr haint yn yr ysbyty ond bod y farwolaeth yn ddamweiniol.

'Annhebygol'

"Mae'n annhebygol ei bod hi wedi dal yr haint yn y gymuned," meddai.

"Dyw hi ddim yn glir ym mha ysbyty y cafodd C difficile ... ond mae'n bosibl bod hyn wedi digwydd am fod oedi wrth ei rhyddhau o'r ysbyty."

Bu farw yn Rhagfyr 2012.

Dywedodd y bwrdd iechyd: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i'w theulu.

"Rydym yn gwybod bod cleifion sy'n cael gwrthfiotigau ar gyfer y cyflwr hwn yn fwy tebygol o ddal yr haint ac mae mwy o haint ymhlith cleifion hynach."

Dywedodd y byddai cyfarfod rhwng y crwner John Gittins, yr arbenigwraig rheoli heintiau Tracey Cooper a'r cyfarwyddwr nyrsio Angela Hopkins.