Bale: Adolygu trefniadau diogelwch
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn adolygu trefniadau diogelwch ar ôl i gefnogwyr y tîm cartref geisio cofleidio Gareth Bale ym Macedonia nos Wener.
Yn ystod yr egwyl yn y gêm yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd rhedodd dau o gefnogwyr Macedonia tuag Bale, chwaraewr drytaf y byd.
Wnaeth Bale ddim chwarae yn y gêm ond bu'n ymarfer yn ystod yr egwyl.
Colli bu hanes Cymru 2-1.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru mai'r tîm oedd yn gyfrifol am ddiogelwch staff oedd yn teithio dramor ond mai'r tîm cartref oedd yn gyfrifol am ddiogelwch yn y stadiwm.
Fe wnaeth Bale arwyddo i Real Madrid ddechrau'r tymor am £85 miliwn, record byd ar gyfer chwaraewr pêl-droed.
Oherwydd amheuaeth am ei ffitrwydd penderfynodd rheolwr Cymru Chris Coleman na ddylai Bale chwarae yn y gêm.
Chwaraewr drytaf
Ceisiodd y cefnogwyr gofleidio Bale wrth iddi ymarfer, ond fe wnaeth o eu gwthio o'r neilltu.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Yr Awdurdodau ym Macedonia oedd yn gyfrifol am ddiogelwch felly y nhw ddylai wedi rhwystro'r cefnogwyr rhag mynd ar y cae a chyrraedd Gareth."
Ychwanegodd fod gan Gymru nifer o sêr yn y tîm gan gynnwys Aaron Ramsey ond fod presenoldeb chwaraewr drytaf y byd yn sefyllfa newydd i'r Gymdeithas a bod angen addasu ar gyfer hynny.
Mae Bale, sydd eto i chwarae i Real Madrid, wedi ei gynnwys yn y garfan i wynebu Serbiad yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
"Bydd angen gweld a oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau o ran diogelwch, ond fel rwyf wedi dweud yn y gorffennol mae ein trefniadau eisoes yn rhai trylwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2013
- Cyhoeddwyd2 Medi 2013
- Cyhoeddwyd2 Medi 2013