Cymru yn colli yn Macedonia
- Cyhoeddwyd
Roedd gol hwyr gan Aleksandar Trajkovski yn ddigon i symud Macedonia o flaen Cymru yn eu grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd.
Aeth Macedonia ar y blaen diolch i gol gan Ivan Trickovski o fewn 20 munud, ond sgoriodd Aaron Ramsey o'r smotyn i sicrhau bod Cymru yn gyfartal yn yr egwyl.
Roedd y gêm yn edrych fel y byddai'n gorffen yn gyfartal, cyn i Trajkovski sgorio gydag ergyd o du allan y cwrt cosbi.
Ni ddaeth chwaraewr drutaf y byd, Gareth Bale ymlaen yn Skopje, ac mae Cymru wedi disgyn i'r bumed safle yng ngrŵp A.
Dyma oedd y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad, a'r tîm cartref aeth ar y blaen yn gyntaf.
Rhoddodd David Vaughan gic rydd i Facedonia wedi 19 munud, ac er i Agim Ibraimi saethu i mewn i'r wal, neidiodd Ivan Trickovski ar y bel i rwydo heibio Boaz Myhill.
Aeth cic rydd Craig Bellamy yn erbyn y postyn ddeg munud yn ddiweddarach cyn i arwr Macedonia droi yn ddihiryn, Ivan Trickovski yn troseddu yn erbyn Ramsey y cwrt cosbi i roi cic o'r smotyn i Gymru.
Ramsey ei hun gododd o'r llawr i sgorio'r gôl, a sicrhau bod Cymru yn gyfartal.
Cafodd Ashley Williams gerdyn melyn ychydig cyn yr egwyl, fydd yn golygu na fydd yn cael chwarae yn y gêm nesaf yn erbyn Serbia ddydd Mawrth.
Yn yr ail hanner cafodd Jonny Williams ei dynnu o'r cae wedi anaf, ond nid y Galactico newydd ddaeth yn ei le, Chris Coleman yn dewis Andrew Crofts i ddod o'r fainc.
Roedd cyfleoedd i'r ddau dîm ennill y gêm, ond Macedonia llwyddodd i fanteisio.
Collodd David Vaughan y bel yn ei hanner ei hun, ac Aleksandar Trajkovski ergydiodd i sicrhau buddugoliaeth i Macedonia.
Mae'r golled yn golygu na all Cymru gyrraedd Gwlad Belg a Croatia ar frig y grŵp.
Bydd Cymru yn chwarae Serbia yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Macedonia 2 - 1 Cymru
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2013
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013