Bale 'ddim yn dechrau' medd Coleman

  • Cyhoeddwyd
Chris Coleman
Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd Coleman nad oedd Bale yn ffit i chwarae o gwbl nos Wener

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru Chris Coleman wedi cadarnhau na fydd Gareth Bale yn dechrau'r gêm yn erbyn Serbia nos Fawrth.

Cafodd Coleman ei feirniadu am beidio defnyddio Bale yn ystod y golled i Macedonia nos Wener - canlyniad ddaeth â gobeithion prin Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014 i ben unwaith ac am byth.

Ond cyn y gêm yng Nghaerdydd nos Fawrth, dywedodd Coleman nad oedd ganddo ddewis yn y mater gan nad oedd Bale yn holliach.

"Daeth e [Bale] i 'ngweld i fore Gwener a dweud ei fod e wedi teimlo anaf i gesail ei forddwyd (groin) ac roedd hi'n amlwg i mi wedyn na fyddai'n medru chwarae unrhyw ran yn y gêm [yn erbyn Macedonia].

"Fe wnes i'r penderfyniad i'w roi ar y fainc gan nad oeddwn i am i'r tîm arall gael hwb cyn y gêm o wybod na fyddai un o chwaraewyr gorau'r byd yn chwarae o gwbl.

"Does dim ymgais o gwbl i dwyllo'r cefnogwyr. Roedden nhw yna i gefnogi Cymru. Wrth gwrs fe fydden nhw wedi dymuno gweld Gareth Bale yn chwarae - fe fydden ni gyd am weld hynny - ond o ystyried fod e ond wedi cael dwy neu dair sesiwn hyfforddi mewn tua wyth wythnos, dyw e ddim yn realistig disgwyl iddo fe chwarae gydag anaf.

"Fydd e ddim yn dechrau nos yfory [Mawrth] chwaith am yr un rheswm. Dydw i ddim yn barod i gymryd risg gyda ffitrwydd unrhyw chwaraewr dim ots pa mor bwysig yw e."

Y disgwyl yw y bydd ymosodwr Real Madrid a chwaraewr dryta'r byd ar y fainc yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth, ond y tro hwn, yn ôl Coleman, mae posibilrwydd y bydd yn cael ei ddefnyddio os bydd angen.

'Derbyn cyfrifoldeb'

Soniodd Coleman hefyd am yr helynt yr wythnos diwethaf pa nad oedd wedi medru teithio gyda'r tîm i Macedonia gan iddo golli ei basport.

"Fy mai i oedd hynny," meddai. "Fy nghamgymeriad i oedd peidio teithio gyda'r tîm.

"Roeddwn i'n teimlo y byddai'n well peidio'u dal nhw nôl yn fwy nag oedden nhw wedi gwneud yn barod. Roedden eisoes awr yn hwyr yn gadael a pe baen nhw wedi disgwyl amdana i fe fyddai hynny wedi ychwanegu 45 munud arall at yr oedi.

Raymond VerheijenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Raymond Verheijen wedi bod yn feirniadol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru

"Rwy'n derbyn cyfrifoldeb llawn am hynny."

Yn y cyfamser mae cyn aelod o dîm hyfforddi Cymru wedi beirniadu'r gyfundrefn bresennol am y canlyniadau siomedig yn ddiweddar.

Dywedodd Raymond Verhuyen, oedd yn ddirprwy hyfforddwr dan ofal y diweddar Gary Speed, fod y Gymdeithas Bêl-droed yn rhy fewnblyg a bod y sefyllfa bresennol yn adlewyrchu hynny.

Ergyd arall i Coleman a Chymru yw na fydd Jonathan Williams ar gael i wynebu Serbia wedi iddo gael anaf i'w goes yn erbyn Macedonia nos Wener, ac mae amheuaeth hefyd am ffitrwydd yr amddiffynnwr canol Sam Ricketts.

Daw hynny ar ben y ffaith bod capten Cymru Ashley Williams wedi ei wahardd ar gyfer y gêm wedi iddo weld cerdyn melyn yn y gêm ddiwethaf.