Coleman: 'Dim effaith ar baratoadau'

  • Cyhoeddwyd
Chris Coleman
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd o Heathrow yn ddiweddarach ar ôl cael pasport newydd.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn mynnu nad yw'r paratoadau ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Macedonia nos Wener wedi eu heffeithio gan fethiant y rheolwr Chris Coleman i hedfan gyda'r garfan o Gaerdydd ar ôl colli ei basport.

Fe deithiodd o Heathrow yn ddiweddarach ar ôl cael pasport newydd.

Bu'n rhaid i'r rheolwr cynorthwyol Kit Symons gymryd cynhadledd y wasg a'r sesiwn hyfforddi yn ei le.

Dywedodd Symons: "Mae'r holl waith strategol eisoes wedi ei wneud, felly ni fydd anhawster.

"Dwi'n siŵr y bydd yn bwrw ymlaen heb deimlo embaras".

Gwella

Colli oedd hanes Cymru yn y pedair gêm gyntaf o dan arweiniad Coleman, gan gynnwys colli 6-1 oddi cartref yn erbyn Serbia yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014.

Ond mae'r tîm wedi gwella o ran perfformiad ac mae'r canlyniadau yn dangos hynny hefyd.

Bydd Cymru yn herio Macedonia nos Wener cyn chwarae Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd y dydd Mawrth canlynol.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), Neal Eardley (Birmingham City), Danny Gabbidon (Crystal Palace), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Wolverhampton Wanderers), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerlyr), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal), Andrew Crofts (Brighton & Hove Albion), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Charlton Athletic), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol